News Centre

Ysgol Fabanod Cwm Glas - Diweddariad

Postiwyd ar : 30 Meh 2023

Ysgol Fabanod Cwm Glas - Diweddariad
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymwybodol bod Ysgol Fabanod Cwm Glas wedi anfon llythyr heddiw (dydd Gwener 30 Mehefin) at rieni/warcheidwaid disgyblion sy’n mynychu’r ysgol, yn amlinellu bod gan y Corff Llywodraethu bryderon ynghylch hyfywedd yr ysgol.
 
Mae'r Corff Llywodraethu hefyd wedi penderfynu rhoi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nad ydyn nhw bellach yn credu bod yr ysgol yn hyfyw oherwydd pwysau ariannol a rhagolygon presenoldeb isel.
 
Bydd yr Awdurdod Lleol nawr yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriad llawn yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, gyda chynigion i gau’r ysgol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd nesaf (Gorffennaf 2024).
 
Mae’n bwysig pwysleisio bod y staff a’r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i barhau i roi i’r disgyblion y dechrau gorau posibl i’w haddysg.
 
Mae rhieni a gwarcheidwaid wedi cael eu cynghori i gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i drafod unrhyw ymholiadau a bydd staff wrth law yn yr wythnosau nesaf i’w hateb.”


Ymholiadau'r Cyfryngau