News Centre

Menter Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerfffili yn parhau

Postiwyd ar : 13 Meh 2023

Menter Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerfffili yn parhau
Mae trigolion eraill Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill £500 am ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o ymgyrch y Fwrdeistref Sirol, Gweddillion am Arian.
 
Mae Mr a Mrs Jenkins o Gaerffili wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr diweddaraf ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae'r ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, i ennill £500.
 
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd a chyfrannu at dargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.
 
Mae holl drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i ennill y wobr ariannol ar yr amod eu bod nhw'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu.
 
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i bob un o’r 80,000 o gartrefi, lle mae’r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar gyfer proses o’r enw Treulio Anaerobig, lle mae'n cael ei droi’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae Cyngor Caerffili ar hyn o bryd yn archwilio ffyrdd o hybu ein cyfraddau ailgylchu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed presennol o 70% wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru.
 
“Ar hyn o bryd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r trydydd gorau yn y wlad o ran deunyddiau ailgylchadwy sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd bob wythnos. Fodd bynnag, mae'r lefelau cymharol isel o ran ailgylchu gwastraff organig yn effeithio ar ein ffigurau perfformiad ailgylchu cyffredinol. Yn benodol, y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, lle mae lefelau cyfranogiad yn isel.
 
“Rydyn ni felly'n hapus iawn i gyhoeddi parhad ein hymgyrch Gweddillion am Arian, menter yr ydyn ni’n gobeithio y bydd yn cynyddu cyfranogiad ailgylchu gwastraff bwyd ac yn hybu ffigurau ailgylchu. Diolch i'r holl drigolion hynny sydd eisoes yn cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu wythnosol hwn ac rydyn ni'n eich annog chi i gyd i gymryd rhan a chael cyfle i ennill y wobr ariannol nesaf.”
 
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau