News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar restr fer gwobrau rhagoriaeth

Postiwyd ar : 21 Meh 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar restr fer gwobrau rhagoriaeth
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth ei fodd o gyhoeddi ei fod ar y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Hyfforddi Asbestos y DU (UKATA) 2023. Mae’r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn amlygu ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ragoriaeth ac yn cydnabod ei gyfraniadau eithriadol i’r diwydiant asbestos.

Cafodd Gwobrau Rhagoriaeth UKATA eu cynnal am y tro cyntaf yn 2018 i goffáu deng mlynedd ers ei sefydlu. Eleni, yn ogystal â dod â darparwyr hyfforddi a chymdeithion cymeradwy UKATA at ei gilydd i gydnabod eu cyflawniadau o fewn y diwydiant, bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu pymtheg mlynedd ers sefydlu'r gymdeithas, awdurdod blaenllaw o ran safonau a hyfforddi asbestos.

Mae Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Rhagoriaeth mewn Arloesedd’ a ‘Gwobr Datblygu Gweithlu’.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Corfforaethol ac Eiddo “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau yn dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm. Mae hwn yn gyflawniad gwych a hoffwn i longyfarch pawb dan sylw.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Ngwobrau Rhagoriaeth UKATA 2023, ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023, gyda'r athletwr Prydeinig enwog a phersonoliaeth teledu, Kriss Akabusi MBE, yn cynnal y rownd derfynol. 

Dywedodd Kriss wrth drafod y noson, “Mae’n anrhydedd mawr cael cynnal digwyddiad Gwobrau Rhagoriaeth UKATA 2023 ac ymuno â dathlu pen-blwydd UKATA yn bymtheg oed. Mae’r achlysur tyngedfennol hwn yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad diwyro UKATA i hyrwyddo rhagoriaeth a meithrin twf o fewn y diwydiant adeiladu.

Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r digwyddiad mawreddog hwn, lle byddwn ni'n cydnabod ac anrhydeddu llwyddiannau eithriadol unigolion a sefydliadau sydd wedi cael effaith sylweddol yn y maes deinamig hwn.

Gyda'n gilydd, gadewch inni groesawu ysbryd rhagoriaeth a chynnig llwncdestun i bymtheg mlynedd o lwyddo ac arloesi!"
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau