News Centre

Map llwybr Cyngor Caerffili tuag at ddyfodol mwy gwyrdd

Postiwyd ar : 28 Meh 2023

Map llwybr Cyngor Caerffili tuag at ddyfodol mwy gwyrdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi amlinellu cynlluniau i hybu cyfraddau ailgylchu a chreu bwrdeistref sirol fwy gwyrdd yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.
 
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed presennol o 70%, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. 
 
Yn hanesyddol, roedd Caerffili wedi perfformio'n dda gan gyflawni 66.7% o ailgylchu yn 2017-18, ond, ers hynny, mae hyn wedi dirywio gyda chyfradd ailgylchu o 60.76% yn cael ei rhagweld ar gyfer 2022-23.
 
Mae'r Cyngor wedi amlinellu map llwybr saith mlynedd i sicrhau bod Caerffili yn bodloni ac yn rhagori targedau perfformio statudol. Mae'r map llwybr hefyd yn amlygu nifer o 'brosiectau piler' sydd wedi'u nodi fel ymyraethau ar unwaith, gan ddisgwyl iddyn nhw gynyddu perfformiad ailgylchu. Mae'r prosiectau piler hyn yn cynnwys:
 
  1. Darpariaethau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i wella arwyddion a chynlluniau’r safleoedd, gwella gwasanaethau i gwsmeriaid ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chyflwyno gofyniad didoli ymlaen llaw a'r potensial am system brawf ar gyfer archebu.
  2. Ailgylchu gwastraff sych wrth ymyl y ffordd – Bydd ymgyrch eang yn cael ei lansio yn hysbysu trigolion ar sut a pham i ailgylchu gan greu sylfeini cryf ar gyfer newid ymddygiad.
  3. Ailgylchu gwastraff organig wrth ymyl y ffordd – Bydd gwaith yn parhau i dynnu sylw at fanteision ailgylchu gwastraff organig drwy fentrau fel yr ymgyrch Gweddillion am Arian a bydd hefyd yn cyflwyno llwybr 12 mis o leiniau cadi am ddim. 
  4. Gwastraff gweddilliol wrth ymyl y ffordd – Bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â thrigolion ynghylch y polisïau gwastraff gweddilliol presennol, er enghraifft, pentyrru bagiau ar ben y bin a gwastraff wrth ochr y bin.
  5. Gwasanaeth masnachu – Bydd y gwasanaethau presennol yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y gwasanaeth gwastraff masnach gweddilliol yn gystadleuol.  

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu deunyddiau ailgychu sych ac organig bob wythnos, am ddim, i'r holl drigolion, ond mae dadansoddiad gan WRAP Cymru yn dangos bod tua 50% o wastraff cyffredinol Caerffili yn cynnwys deunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys 9,000 tunnell o wastraff bwyd.
 
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Rydyn ni'n sylweddoli bod llawer o drigolion yn barod yn gweithio gyda ni bob wythnos i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl, ond mae angen gwneud rhagor, a dyna pam bydd cyfathrebu â'n trigolion yn flaenoriaeth i'r trywydd hwn.
 
“Er bod ein cyfraddau cyfranogiad o ran ailgylchu deunyddiau sych yn uchel, yn anffodus mae halogi biniau ailgylchu a biniau gwastraff gweddilliol, ynghyd â diffyg cyfranogiad o ran ailgylchu deunyddiau organig, yn cael effaith negyddol ar ein cyfraddau ailgylchu cyffredinol.

“Dros y misoedd sydd i ddod, gall trigolion ddisgwyl cael adnoddau sy'n egluro sut i ailgylchu'n effeithiol a pham mae cyfranogi mor bwysig.

“Yn y cyfamser, rydyn ni'n gofyn i drigolion wirio'r deunyddiau a ganiateir ar gyfer ailgylchu deunyddiau sych – mae'r rhestr ar gael ar ein gwefan, sef www.caerffili.gov.uk/beth-syn-mynd-yn-y-bin – a hefyd fynd ati i ailgylchu gwastraff bwyd. I ofyn am gadi gwastraff bwyd am ddim, ewch i www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd neu ffonio 01443 866533.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Mae gennym ni dargedau ailgylchu cenedlaethol heriol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, ar un adeg, roedd gan Gaerffili un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru ac rwy'n credu y gallwn ni fod y gorau eto. 
 
"Mae'r map llwybr a'r prosiectau piler wedi cael eu cynllunio i gynyddu cyfranogiad drwy wella ein gweithrediadau gwasanaeth a gweithio'n rhagweithiol gyda thrigolion mewn ymdrech i amddiffyn ein hamgylchedd nawr ac yn y dyfodol."
 
Bydd strategaeth ddrafft wedi'i diweddaru yn cael ei datblygu i'w hystyried gan Gyd-bwyllgor Craffu a’i benderfynu gan y Cabinet yn hwyr yn yr Hydref 2023. Os yw'n cael ei gytuno, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar ddechrau 2024. 


Ymholiadau'r Cyfryngau