News Centre

Ymrwymiad Cyngor Caerffili i adolygu Mai Di-Dor

Postiwyd ar : 23 Meh 2023

Ymrwymiad Cyngor Caerffili i adolygu Mai Di-Dor
Dywedodd Arweinydd Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, bod gwersi wedi’u dysgu o ganlyniad i gyflwyno ymgyrch y DU, ‘Mai Di-Dor’, yng Nghaerffili ac wedi ymrwymo i adolygiad, er mwyn sicrhau’r cydbwysedd cywir.
 
Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, “Ar ôl adolygu cwynion a chanmoliaeth a thrwy edrych ar negeseuon cyfryngau cymdeithasol, mae’n amlwg iawn bod awydd ymhlith trigolion i gefnogi bioamrywiaeth a’r buddion amgylcheddol clir, ond mae hefyd yn amlwg nad ydyn ni wedi sicrhau’r cydbwysedd cywir a bydd angen i ni sicrhau bod rhai meysydd yn parhau i gael eu cynnal, hyd yn oed drwy gyfnod ‘Mai Di-Dor'. Os ydyn ni am lwyddo, mae angen i ni ddod â thrigolion gyda ni.”
 
Cafodd penderfyniad ffurfiol i gefnogi’r ymgyrch ei wneud ym mis Mawrth ac roedd yn amlinellu cynigion i atal y gwaith torri gwair ffurfiol yn ystod mis Mai, ac eithrio lleiniau gwelededd a llinellau gweld ar briffyrdd, ymylon ac ardaloedd mynediad ar lwybrau troed / llwybrau beicio, meysydd chwaraeon, parciau dinesig, llety pobl hŷn, mynwentydd, a mannau chwarae / hamdden agored, a fydd yn parhau i gael eu cynnal ar yr amlder torri presennol.
 
Mae Cabinet Caerffili wedi ymrwymo i adolygu’r cynigion i ystyried yr ardaloedd y mae angen eu cynnal, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr ardaloedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf gan gymunedau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Fannau Gwyrdd, “Mae’n bwysig cefnogi ein trigolion sy’n mwynhau ein mannau gwyrdd, ac annog bioamrywiaeth yn ein sir. I wneud hynny’n dda, byddwn ni’n gweithio i ddeall sut y mae modd sicrhau’r cydbwysedd hwnnw cyn y gwanwyn nesaf a bydd yn rhaid i ni hefyd gael gwared ar rai materion annisgwyl. Rydyn ni, yn anffodus, wedi dioddef nifer o faterion mecanyddol yn ddiweddar oherwydd y newidiadau i’r drefn dorri, ac rydyn ni’n deall yn awr fod angen y peiriannau cywir yn eu lle i ymdrin â gwair hir iawn. Mae'n gromlin ddysgu.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau