News Centre

Aaron Ramsey yn datgelu Cwrt Cruyff yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod

Postiwyd ar : 23 Meh 2023

Aaron Ramsey yn datgelu Cwrt Cruyff yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod

Fe wnaeth Aaron Ramsey, chwaraewr rhyngwladol Cymru ac eicon pêl-droed, agor y 'Cwrt Cruyff Aaron Ramsey’ yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod heddiw. 

Mewn seremoni wedi'i threfnu gan Y Sefydliad Johan Cruyff, fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan a Syslia Cruyff, Aelod o Fwrdd Sefydliad Johan Cruyff a merch Johan Cruyff ymuno ag Aaron Ramsey. 

Mae’r cyfleuster wedi’i adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Sefydliad Aaron Ramsey gyda chymorth arian wedi'i godi gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.

Dechreuodd y diwrnod gyda chynhadledd i'r wasg a gafodd ei chynnal ar y cae newydd. Cafodd disgyblion yr ysgol gyfle i ofyn cwestiynau i Aaron Ramsey a Susila Cruyff cyn mynd ar y cae i gymryd rhan mewn gêm bêl-droed. 

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Rydyn ni'n falch iawn o agor Cwrt Cruyff yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn swyddogol. Bydd y gwaith partneriaeth gyda Sefydliad Aaron Ramsey a Sefydliad Johan Cruyff yn cyfrannu’n sylweddol at hyrwyddo datblygiad chwaraeon nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd yn wych gweld yr haul yn tywynnu a’r plant yn mwynhau’r cyfleuster newydd hwn heddiw”. 

Dywedodd Aaron Ramsey, “Mae cyfleusterau fel hyn yn rhoi cyfle i blant freuddwydio’n fawr ac mae cael mynediad at le gwych i chwarae yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer taith bêl-droed unrhyw un. Mae’n wych gweld y gwaith y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Sefydliad Johan Cruyff yn ei wneud i ddarparu cyfleusterau chwaraeon i bobl ifanc. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod yma heddiw i agor y cae yn fy nhref enedigol a rhoi cymorth i Ysgol Cae’r Drindod drwy Sefydliad Aaron Ramsey”.


Dywedodd Aelod Bwrdd Sefydliad Johan Cruyff, Susila Cruyff, “Rydyn ni yn Sefydliad Cruyff yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Aaron Ramsey am y rôl y maen nhw wedi’i chwarae wrth i ni agor y man diogel newydd hwn i blant chwarae. Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yma heddiw yng Nghymru a gweld sut mae etifeddiaeth fy nhad yn dal yn fyw ac yn ehangu ledled y Deyrnas Unedig.”
 
Mae Cwrt Cruyff Aaron Ramsey yn Ysgol Cae’r Drindod wedi ymrwymo i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a oedd yn un o gymhellion cychwynnol Johan Cruyff wrth iddo geisio cysylltu chwaraeon a phlant. Mae agor y cyfleuster hwn yn rhan o gynlluniau Sefydliad Cruyff i ehangu presenoldeb y sefydliad yn y Deyrnas Unedig gan ddyblu nifer Llysoedd Cruyff erbyn diwedd y flwyddyn hon. 


Ymholiadau'r Cyfryngau