News Centre

Cau ffordd – Gwaith Pont Afon Rhymni

Postiwyd ar : 17 Gor 2023

Cau ffordd – Gwaith Pont Afon Rhymni

Yn ystod archwiliadau arferol o strwythurau priffyrdd, cafodd pantiau eu nodi ar y ffordd gerbydau ar Bont Afon Rhymni, ar yr A469, ger Bargod.

Mae'r pantiau hyn o ganlyniad i symudiadau thermol o fewn y strwythur. I gywiro'r mater hwn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu adeiladu waliau balast concrit cyfnerthedig wrth bob ategwaith i gadw'r deunydd llenwi yn ei le a chynnal wyneb y ffordd gerbydau.

Bydd y gwaith yn dechrau ar 22 Gorffennaf 2023 am gyfnod o 6 wythnos i gyd-ddigwydd â llif traffig is yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Bydd yr A469 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith, a bydd llwybr gwyriad ar hyd A4049 Pengam Road a'r A472.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra, a byddwch cystal â bod yn amyneddgar yn ystod y gwaith hanfodol hwn.



Ymholiadau'r Cyfryngau