News Centre

Cau ffordd – Groes-faen Terrace

Postiwyd ar : 20 Gor 2023

Cau ffordd – Groes-faen Terrace

Wal gynnal Cam 2 – Cwblhau gwaith draenio priffyrdd.

Yn dilyn cwblhau'r gwaith draenio ddiwedd 2021/ddechrau 2022, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu cwblhau gollyngfa cwlfert sy'n weddill yn ystod gwyliau'r haf 2023, gan gau'r ffordd yn llwyr.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar 24 Gorffennaf 2023 a phara am tua 5 diwrnod, gan gau'r ffordd yn llwyr rhwng y gyffordd â Factory Road a Groes-faen Terrace. Gall y rhaglen newid yn ôl y tywydd a phroblemau annisgwyl ar y safle.

Mae llwybr y gwyriad ar gyfer cerddwyr a cherbydau (PDF) a fydd ar waith yn ystod y cynllun hwn.

Bydd gwasanaeth bws gwennol ar waith yn ystod y gwaith hwn. Mae'r Awdurdod wedi gwneud trefniadau dros dro ar gyfer cynnal y gwasanaeth bws gwennol ar benwythnos 29 a 30 Gorffennaf 2023, pe bai'r rhaglen waith yn gor-redeg. Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn teithio rhwng:

  • Groes-faen Terrace a Fochriw (dydd Llun i ddydd Sadwrn); a
  • Groes-faen Terrace a Phontlotyn (dydd Sul yn unig)
  • Bydd angen i deithwyr fynd ar y gwasanaeth bws arferol o Fochriw neu Bontlotyn ar gyfer y daith gysylltiol.
  • Amserlen bws (PDF)

Rydyn ni'n ddiolchgar am eich amynedd yn ystod y gwaith hanfodol hwn.



Ymholiadau'r Cyfryngau