News Centre

Trefniadau taliadau cinio ysgol am ddim CBS Caerffili ar gyfer haf 2023

Postiwyd ar : 18 Gor 2023

Trefniadau taliadau cinio ysgol am ddim CBS Caerffili ar gyfer haf 2023

Ddydd Mercher 28 Mehefin 2023, fe hysbysodd Llywodraeth Cymru gynghorau ledled Cymru na fydden nhw bellach yn darparu taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf, a hynny ar unwaith.

Yn sgil y cyhoeddiad hwn, daeth llawer o adborth gan deuluoedd a oedd yn dibynnu ar y taliad hwn. Fel Cyngor, rydyn ni'n gwrando'n astud ar anghenion a phryderon ein cymunedau ni ac roedd y ffaith bod y cyhoeddiad hwn wedi'i wneud mor hwyr yn amlwg wedi achosi gofid.

Rydyn ni'n ymwybodol bod costau byw cynyddol wedi dod yn faich sylweddol ar ein cymunedau ni ac wedi rhoi straen ar gyllidebau aelwydydd. 

Mae Cabinet Caerffili wedi cytuno i ddarparu taliad untro o £19.50 yr wythnos, fesul plentyn, i deuluoedd cymwys yn ystod cyfnod gwyliau’r ysgol, sy’n dechrau ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2023 ac yn dod i ben ddydd Iau 31 Awst 2023.

Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud i liniaru effaith Llywodraeth Cymru yn dileu'r cyllid yn hwyr.
Cyfanswm y cyllid fesul plentyn fydd £117 i deuluoedd sy'n gymwys ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2023. Os byddwch chi'n dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ôl y dyddiad hwn, byddwch chi'n cael swm gostyngol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i lobïo Llywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad hwn gan mai dim ond y taliad untro hwn dros yr haf y gall y Cyngor ei ariannu. Ni fydd taliadau pellach ar gyfer unrhyw wyliau ysgol yn y dyfodol y tu hwnt i’r cyfnod hwn.

Bydd teulu pob disgybl cymwys yn cael llythyr gan Swyddfa’r Post, yn caniatáu casglu taliad arian parod o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post. 

Mae disgwyl y bydd llythyrau ar gyfer disgyblion cymwys yn dod i law erbyn dydd Llun 24 Gorffennaf 2023.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y broses dalu, cysylltwch â'n staff ymroddedig ni. Rydyn ni yma i'ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn ni a darparu'r cymorth angenrheidiol.

E-bostiwch TaliadauPrydauYsgolAmDdim@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864055.

Rydyn ni hefyd am dynnu sylw at amrywiaeth o adnoddau ychwanegol sy'n gallu cynorthwyo teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn o ran arian.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Cynlluniau Cymorth y Llywodraeth: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynlluniau cymorth amrywiol, gan gynnwys budd-daliadau lles fel Credyd Cynhwysol, sy'n gallu darparu cymorth ariannol i deuluoedd mewn angen. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw
  • Cymorth Costau Byw Cyngor Caerffili: Rydyn ni wedi datblygu ‘siop un stop’ ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae llawer o fesurau cymorth costau byw mewn un lle: https://www.caerphilly.gov.uk/cymorth-costau-byw
  • Banciau Bwyd Lleol: Mae banciau bwyd lleol ar gael i ddarparu eitemau bwyd hanfodol a chymorth i deuluoedd sy'n profi caledi ariannol. Maen nhw'n gallu eich cynorthwyo chi i gael mynediad at y nwyddau angenrheidiol yn ystod gwyliau'r haf. Rydyn ni wedi llunio rhestr o fanciau bwyd lleol a’u horiau gweithredu, sydd i’w gweld ar Wefan Cyngor Caerffili: https://www.caerffili.gov.uk/services/managing-your-money/foodbanks?lang=cy-gb

Rydyn ni'n deall y byddai'r newid hwn yn gallu arwain at ymholiadau a phryderon ychwanegol.

Rydyn ni am eich sicrhau bod ein tîm Gofalu am Gaerffili yma i'ch cynorthwyo a'ch cynghori chi trwy'r heriau hyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi i gael mynediad at adnoddau eraill, cysylltwch â'r tîm drwy ffonio: 01443 811490, neu e-bostio: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk.



Ymholiadau'r Cyfryngau