News Centre

Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern yn ennill ‘Gwobr Aur Teithiau Llesol’

Postiwyd ar : 24 Gor 2023

Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern yn ennill ‘Gwobr Aur Teithiau Llesol’
Mae Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern, sydd eisoes wedi derbyn y ‘Gwobr Arian Teithiau Iach’, bellach wedi ennill y teitl aur. Hon yw'r drydedd ysgol yng Nghymru, a'r cyntaf yng Nghaerffili i dderbyn y wobr fawr ei bri. Mae’n cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad ac ymroddiad y plant, yr athrawon, a’r rhieni i deithio llesol er mwyn creu cymuned hapusach ac iachach.

Ers i Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern ddechrau ar eu taith fel Ysgol Teithiau Llesol ym mis Medi 2019, maen nhw wedi gweithio’n galed i annog cymaint o blant â phosibl i ddewis taith llesol i’r ysgol.

Mae iechyd a lles wrth galon popeth y mae Ty’n-y-Wern yn ei wneud, ac mae pwysigrwydd gweithgarwch corfforol wedi’i gydnabod, o ran iechyd corfforol a meddyliol plant.

Mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau i godi proffil teithiau llesol ac i ennill Gwobr Aur Teithiau llesol, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys ‘Bling My Ride’ a ‘Strydoedd Ysgol’, cymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol fel ‘Stroliwch a Roliwch ', yn ogystal â chynnal gweithdai sglefr-fyrddio a BMX i blant gael profiad o wahanol ffyrdd o deithio. Maen nhw hefyd wedi dechrau ‘bws cerdded’ i annog rhagor o blant i gerdded i'r ysgol. Oherwydd ei lefel o bwysigrwydd, mae teithiau llesol hefyd yn rhan bwysig o ddyluniad eu cwricwlwm.

Mae pawb yn Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern yn credu y dylai pob plentyn ddysgu sut i reidio beic, felly cafodd ei ychwanegu at eu ‘Pasbort Disgybl’ gyda’r nod y byddai pob plentyn yn gallu reidio beic erbyn iddyn nhw adael Ty'n-y-Wern. Byddai un o’r disgyblion, sydd ag anabledd corfforol, yn gweld hyn yn anodd felly cododd y gymuned dros £1,500 i ddarparu beic addas iddo fel y gallai ddysgu i reidio beic yn yr un modd â’i ffrindiau.

Dywedodd Sophie Goodliffe, Pennaeth Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr arbennig hon. Diolch yn fawr iawn i Miss Lippiett ein harweinydd Teithiau Llesol a’r criw Teithiau Llesol am eu holl waith caled, ac i'n cymuned ysgol gyfan sydd wedi cefnogi ein digwyddiadau a gweithgareddau niferus, ac am wneud newid mawr i deithio'n llesol i'r ysgol bob dydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau “Mae hwn yn gyflawniad haeddiannol iawn i Ysgol Gynradd Ty’n-y-Wern. Mae ymroddiad y disgyblion a’r staff i’w ganmol, ac mae bod yr ysgol gyntaf yng Nghaerffili i gyflawni hyn yn rhywbeth i fod yn hynod falch ohono. Da iawn bawb!"


Ymholiadau'r Cyfryngau