News Centre

Street Food Factory: busnes lleol sy'n ffynnu ar ôl cael cymorth gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth y DU

Postiwyd ar : 18 Gor 2023

Street Food Factory: busnes lleol sy'n ffynnu ar ôl cael cymorth gan Gyngor Caerffili a Llywodraeth y DU
Mae Street Food Factory, sy'n gweithredu ers 2019, wedi ehangu ar eu busnes gyda chegin symudol bwrpasol newydd i ateb y galw cynyddol am eu cynnyrch a'u gwasanaeth.  Mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth ers y pandemig gyda dros 23% o gynnydd i'w refeniw a gwerthiant. Maen nhw'n darparu amrywiaeth o fwyd blasus ar gyfer y staff llwglyd mewn lleoedd fel Unilever, JR Gilbert Engineering, ac eraill yn ddi-ffael o amgylch ardal Oakdale. Mae 80% o'u busnes bellach yn gweithredu ar-lein, drwy www.streetfoodfactory.co.uk. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu bwyd gyda'r nos.

Fe gafodd Street Food Factory £24,249.00 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd arian cyfatebol ei ychwanegu i’r grant, a oedd yn cynnwys grant cyfalaf o £20717.49 a grant refeniw o £3531.51. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Street Food Factory o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwnaeth y grant gynorthwyo gwaith trawsnewid y gegin symudol gan eu galluogi i brynu'r offer cegin sydd eu hangen i greu gofod addas i baratoi bwyd. Roedd hefyd o ddefnydd i gynorthwyo â chostau’r 2 aelod newydd o staff, eu hyfforddiant, gwisg staff, cynllun gwobrwyo staff, a meddalwedd talu ar gyfer taliadau sgrin gyffwrdd.

Dywedodd perchennog Street Food Factory, sydd hefyd yn berchen ar MC Marketing Service ac sydd â 3 cyfleuster bwyd/bar symudol sy’n gwasanaethu mewn digwyddiadau ledled y DU, “Mae’r grant wedi bod yn ffactor enfawr wrth i ni ehangu ein busnes a darparu beth oedd ein cwsmeriaid ei angen. Roedd y broses ymgeisio yn hawdd iawn ac roedd cymorth y Timau Busnes yn y broses yn galonogol iawn. Mae wedi helpu i roi hwb sylweddol i'n cynlluniau i wneud y busnes yn fwy ac yn well nag erioed!”

Galwodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, heibio i weld y gwaith oedd wedi ei wneud i drawsnewid yr uned. Dywedodd, “Mae’n wych gweld ein bod ni, fel Cyngor, yn gallu cynorthwyo ein hentrepreneuriaid lleol i greu busnesau a swyddi newydd yn yr ardal leol. Mae'r cymorth ariannol wedi helpu i greu busnes llwyddiannus arall, a fydd yn siŵr o ffynnu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau