News Centre

Cae pob tywydd Canolfan Hamdden Rhisga – diweddariad

Postiwyd ar : 14 Gor 2023

Cae pob tywydd Canolfan Hamdden Rhisga – diweddariad

Rydyn ni'n ymwybodol o weithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â’r cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Rhisga ac yn dymuno egluro’r sefyllfa.

Mae'r cae pob tywydd presennol yn nesáu at ddiwedd ei oes ac, ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn trafod opsiynau ar gyfer y safle. Mae hyn yn gyson â’n dulliau ni ar gyfer safleoedd eraill yn ein gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden, sef sicrhau ein bod ni'n darparu cyfleusterau modern, addas i’r diben sy’n diwallu anghenion ein cymunedau, yn unol â Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019-29.

Er mwyn sicrhau bod y cyfleuster strategol hwn yn parhau i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned, mae opsiynau i'w wella yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Bydd gwaith archwilio tir yn digwydd dros gyfnod yr haf. Byddwn ni wedyn yn gallu rhannu cynigion ar gyfer y ffordd ymlaen unwaith y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau.

Mae'r cae pob tywydd yn dal ar agor i'w ddefnyddio fel arfer a byddwn ni'n parhau i ddiweddaru'r gymuned.



Ymholiadau'r Cyfryngau