News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio cymorth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safle chwarel halogedig

Postiwyd ar : 20 Gor 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio cymorth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safle chwarel halogedig
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gofyn i’r Prif Weinidog ymyrryd i helpu i fynd i’r afael â materion hanesyddol ynghylch gwastraff cemegol a gafodd ei waredu ar ddiwedd y 1960au ar safle chwarel Tŷ Llwyd ger Ynysddu.
 
Mae’r Cynghorydd Sean Morgan wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yr wythnos hon (Mercher 19 Gorffennaf), yn dilyn penderfyniad diweddar mewn cyfarfod y Cyngor i wneud cais ffurfiol i gael cymorth.
 
Yn ei ohebiaeth at y Prif Weinidog, mae'r Cynghorydd Morgan yn ysgrifennu, “Mae fy Nghyngor yn parhau i reoli etifeddiaeth hen chwarel Tŷ Llwyd uwchlaw cymuned Ynysddu. 
 
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i weithio gyda'u cydweithwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu cynllun effeithiol i reoli trwytholch sy'n deillio o'r safle er boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r her o reoli’r trwytholch yn fater tymhorol sydd wedi’i waethygu gan ein hinsawdd newidiol a’r cyfnodau canlyniadol o law sylweddol yn ystod misoedd y gaeaf.
 
Mae proffil y safle ynghyd â'r materion etifeddiaeth cysylltiedig wedi codi'n sylweddol dros y 12 mis diwethaf a chafodd Rhybudd o Gynnig ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ar 4 Gorffennaf gan y ddau aelod annibynnol lleol sy'n cynrychioli ward Ynysddu. Cafodd y Rhybudd o Gynnig ei gymeradwyo'n llawn gan y Cyngor, a ofynnodd i mi ofyn am eich cymorth ac ymyrraeth yn y modd canlynol.
 
Cafodd ei ddatgan yn y Rhybudd o Gynnig y dylai “Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus Annibynnol ac i ymchwilio a hwyluso cyllid yn unol â Rhan Dau o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd”.
 
Yn ddiweddar, fe wnaeth fy swyddogion gwrdd â nifer o'ch swyddogion chi o'r Adran Ansawdd Amgylcheddol ar 4 Gorffennaf a'u hysbysu nhw'n llawn o'r sefyllfa bresennol ynghyd â manylion y gwaith arfaethedig pellach a fydd yn cael ei gyflawni gan fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi eich ymateb chi i'r cais am gymorth fel y manylir yn y Rhybudd o Gynnig uchod. Fodd bynnag, yn y cyfamser rwy’n hapus i drafod y mater gyda’r Gweinidog a swyddogion perthnasol os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi.”

 
Mae'r Cynghorydd Morgan wedi addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned am yr ymateb dilynol gan Lywodraeth Cymru.


Ymholiadau'r Cyfryngau