News Centre

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Postiwyd ar : 19 Gor 2023

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
 
Mae'r cyflawniad yn cydnabod bod ystod gadarn o bolisïau yn sail i waith y gwasanaeth ac yn galluogi pobl ifanc i ddysgu a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol.
 
Roedd Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili eisoes wedi ennill Lefel Efydd y Marc Ansawdd ond mae bellach wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd yn swyddogol, sy’n dangos ymrwymiad parhaus y gwasanaeth i barhau i wella safonau’r gwasanaeth.
 
Fe wnaeth Cyngor y Gweithlu Addysg dalu teyrnged i ymroddiad gweithwyr ieuenctid y Cyngor, gan annog y gwasanaeth i ennill lefel Aur y wobr cyn diwedd y flwyddyn. Hefyd, maen nhw wedi cael eu gofyn i rannu trefniadau cynllunio cwricwlwm y gwasanaeth ledled Cymru fel arfer da.
 
Roedd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, a Richard (Ed) Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, yn bresennol yn y digwyddiad lle cafodd y wobr ei chyflwyno.
 
Dywedon nhw, “Diolch i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili am bopeth rydych chi'n ei wneud gyda’n pobl ifanc ni, rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n parhau i wneud hynny wrth i chi anelu at Lefel Aur y Wobr.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor, ewch i: Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
 
Mae'r cyflawniad yn cydnabod bod ystod gadarn o bolisïau yn sail i waith y gwasanaeth ac yn galluogi pobl ifanc i ddysgu a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol.
 
Roedd Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili eisoes wedi ennill Lefel Efydd y Marc Ansawdd ond mae bellach wedi ennill Lefel Arian y Marc Ansawdd yn swyddogol, sy’n dangos ymrwymiad parhaus y gwasanaeth i barhau i wella safonau’r gwasanaeth.
 
Fe wnaeth Cyngor y Gweithlu Addysg dalu teyrnged i ymroddiad gweithwyr ieuenctid y Cyngor, gan annog y gwasanaeth i ennill lefel Aur y wobr cyn diwedd y flwyddyn. Hefyd, maen nhw wedi cael eu gofyn i rannu trefniadau cynllunio cwricwlwm y gwasanaeth ledled Cymru fel arfer da.
 
Roedd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, a Richard (Ed) Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, yn bresennol yn y digwyddiad lle cafodd y wobr ei chyflwyno.
 
Dywedon nhw, “Diolch i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili am bopeth rydych chi'n ei wneud gyda’n pobl ifanc ni, rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n parhau i wneud hynny wrth i chi anelu at Lefel Aur y Wobr.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor, ewch i: www.caerffili.gov.uk/services/children-and-families/services-for-young-people?lang=cy-gb 


Ymholiadau'r Cyfryngau