News Centre

Anrhydeddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â Gwobr Datblygu Gweithlu fawreddog

Postiwyd ar : 14 Gor 2023

Anrhydeddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â Gwobr Datblygu Gweithlu fawreddog

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei gyflwyno â Gwobr Datblygu Gweithlu yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA). Yr athletwr Olympaidd Kriss Akabusi oedd yn cyflwyno'r seremoni fawreddog yng Ngwesty Radisson Blu ym Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr ar ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.

Yn ystod y seremoni wobrwyo, a oedd yn nodi pen-blwydd UKATA yn 15 oed, fe wnaeth dros 100 o bobl ddathlu llwyddiant ac uno i godi arian hanfodol ar gyfer Sefydliad Mavis Nye, elusen sy’n ymroddedig i leddfu caledi ariannol a helpu datblygu ymchwil labordy a chlinigol yn y DU ar gyfer trin mesothelioma.  

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol ac Eiddo, “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill Gwobr Datblygu Gweithlu UKATA.

Mae rhaglen ymwybyddiaeth a hyfforddiant asbestos y Cyngor wedi darparu hyfforddiant i filoedd o staff a chontractwyr sy'n cynorthwyo gyda chynnal a chadw ein stoc tai cyngor, ein hysgolion ac ein hadeiladau corfforaethol ni, yn ogystal â staff sy'n gweithio o fewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, priffyrdd, gwasanaethau glanhau, adeiladau cymunedol a phrosiectau dymchwel.

Mae’r wobr hon gan UKATA, y corff diwydiant ar gyfer hyfforddiant asbestos, yn cadarnhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn. Mae’n dangos ein hymrwymiad ni i uwchsgilio’r rhai a allai ddod i gysylltiad â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos er mwyn sicrhau eu bod nhw a’r bobl o’u cwmpas nhw'n ddiogel.

Dywedodd Craig Evans, Prif Swyddog Gweithredu UKATA, “Hoffwn longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ennill y Wobr Datblygu Gweithlu. Roedd gan banel y beirniaid dasg enfawr o lunio rhestr fer a dewis yr enillwyr oherwydd nifer y ceisiadau o safon uchel.  Mae'r wobr hon yn cydnabod cyflawniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i weithlu, sy'n ymdrechu i amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd rhag y risgiau sy'n deillio o ddod i gysylltiad ag asbestos.

Roedd y noson wobrwyo yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiant gydag aelodau a phartneriaid UKATA, ac roedd cael Kriss yn cynhesu’r gynulleidfa yn un o’r uchafbwyntiau niferus.

Mae ennill y Wobr Datblygu Gweithlu yn dyst i lwyddiant parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae gen i bob ffydd y byddan nhw'n parhau â'u cyflawniad.”

Noddwyd y digwyddiad gan Asbestos Analysts Ltd, Asbestos Management Consultancy, DSK Environmental Ltd, RoundWorks IT, Specialist Training Assessment Centre Ltd a Tersus Consultancy Ltd.



Ymholiadau'r Cyfryngau