News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer Prosiect Cyfnewidfa Caerffili

Postiwyd ar : 19 Gor 2023

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer Prosiect Cyfnewidfa Caerffili
Yn ddiweddar, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu Prosiect Cyfnewidfa Caerffili ymhellach. Amlinellodd adroddiad y Cabinet bod £520,000 o gronfa ddatblygu wrth gefn y Bwrdd Prosiect Adfywio yn gallu cael ei defnyddio i gyflawni Cam 4 Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ar gyfer cynnig Cyfnewidfa Caerffili. Hefyd, cymeradwyodd y Cabinet ddyraniad pellach o hyd at £580,000 o'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer Agenda Llunio Lleoedd y Cyngor i dalu am y diffyg mewn cyllid pe na bai cyllid allanol pellach yn cael ei ganfod.

Nawr, bydd y cynigion sydd wedi'u cymeradwyo yn galluogi'r Cyngor i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd i sicrhau'r cyllid angenrheidiol ar gyfer darparu'r gyfnewidfa.

Mae disgwyl i Gam 3 RIBA gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2023, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn natblygiad y prosiect. Fodd bynnag, mae angen cyllid ychwanegol i fwrw ymlaen â Cham 4 RIBA, sy'n golygu datblygu dyluniadau manwl ar gyfer y prosiect. Mae'r cam hwn yn hollbwysig gan ei fod yn paratoi'r prosiect i fod yn barod i'w roi ar waith, sy'n golygu y bydd yn barod i symud i'r cam adeiladu unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau.

Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Rydw i’n falch iawn bod y Cabinet wedi cytuno i ddatblygu cynlluniau pellach i ddod â chyfnewidfa drafnidiaeth newydd i galon y Fwrdeistref Sirol. Mae'r argymhellion sydd wedi'u cymeradwyo gan y  Cabinet wedi helpu gwneud y mwyaf o'r potensial i ddenu cyllid allanol ar gyfer y prosiect.

“Mae’r argymhellion hyn, i wneud y cynnig yn ‘barod ar gyfer y rhaw’, yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym ni i sicrhau bod y prosiect hanfodol hwn yn cael ei gyflawni.

“Mae’r prosiect hwn yn rhan hanfodol o weledigaeth hirdymor y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, ac mae’n ychwanegiad at gynllun ehangach Llunio Lleoedd Caerffili 2035. Ochr yn ochr â mentrau allweddol eraill megis marchnad Ffos Caerffili a datblygiad Pentrebane Street, dyma garreg filltir arall wedi’i chyrraedd.”

Cafodd argymhellion y Cyngor ar gyfer dyrannu cyllid eu gwneud i sicrhau bod prosiect Cyfnewidfa Caerffili yn parhau ar y trywydd iawn. Drwy gael cynllun sy’n barod i'w roi ar waith, bydd y prosiect yn gweithredu fel porth ar gyfer menter Llunio Lleoedd Caerffili 2035, gan wella isadeiledd y rhanbarth a chynyddu’r cyfleoedd i sicrhau’r cyllid angenrheidiol ar gyfer ei gyflawni’n llwyddiannus.

Mae prosiect adnewyddu Cyfnewidfa Caerffili yn rhan hanfodol o weledigaeth hirdymor y Cyngor ar gyfer y rhanbarth, gyda'r nod o greu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus. Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd trafnidiaeth ac yn hybu twf economaidd wrth ddarparu cyfnewidfa fodern ac effeithlon i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Llunio Lleoedd Caerffili 2035, ewch i: Hafan - Caerphilly Town 2035 Caerphilly Town 2035
 


Ymholiadau'r Cyfryngau