News Centre

​Ceisiadau nawr ar agor am grant gwisg ysgol a gwisg chwaraeon

Postiwyd ar : 05 Gor 2022

​Ceisiadau nawr ar agor am grant gwisg ysgol a gwisg chwaraeon

Mae rhieni ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili nawr yn gallu gneud cais AR-LEIN am grant o £225 (ac eithrio blwyddyn 7, sef £300) tuag at wisg ysgol, gwisg chwaraeon, neu offer ar gyfer gweithgareddau eraill y tu allan i'r ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Mae dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais am y grant hwn os ydyn nhw'n:

  • dechrau Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, 2, 3, 4, 5, a 6 mewn ysgol gynradd ym mis Medi 2022
  • dechrau Blwyddyn 7, 8, 9 10, neu 11 mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2022
  • yn 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion (yn y grwpiau blwyddyn uchod)
  • Y grant ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 yw £300, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. 

Mae'r cyllid hwn ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, ac nid yw'n ymestyn i gynnwys y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau ar gyfer eu hamddiffyn wrth bontio neu gynnig cyffredinol. Os ydych chi wedi cyflwyno cais am Brydau Ysgol Am Ddim, yna mae'n rhaid i chi aros am y penderfyniad cyn gwneud cais am y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad. 

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim ac nad ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais, llenwch ein ffurflen gais Prydau Ysgol Am Ddim ar-lein. RHAID i chi aros am y penderfyniad hwn cyn gwneud cais am y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad.

Mae'r cyllid ar gael i BOB plentyn sy'n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol, beth bynnag yw ei gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Nodwch, mewn newid i broses ymgeisio’r llynedd a bydd angen cyflwyno hawliad.

Mae modd defnyddio'r arian i brynu:

  • Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Gwisg chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a geidiaid;
  • Offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg; ac
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau'r ysgol, megis gwisgoedd gwrth-ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored;Gliniaduron neu dabledi i helpu o ran dysgu o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori teuluoedd i gysylltu ag ysgol/lleoliad eu plentyn i drafod benthyca offer cyn prynu. 

Mae ffonau symudol wedi'u heithrio o'r cyllid hwn.

Os ydych chi eisoes wedi prynu'r eitemau, cewch chi wneud cais a chael yr arian.

Bydd ceisiadau am y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cael eu gweinyddu'n ganolog gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac nid gan ysgolion unigol.

I wneud cais am y grant, ewch i wefan y Cyngor.

Sylwch fod gwerth y grant wedi’i godi gan £100 fel y mae wedi'i ei restru uchod ac mae am flwyddyn yn unig (22/23) fesul dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn gorfodol (Derbyn – Blwyddyn 11), plant sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n cael eu dosbarthu fel Dim Hawl i Gael Arian Cyhoeddus (NRPF).



Ymholiadau'r Cyfryngau