News Centre

Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol

Postiwyd ar : 19 Ebr 2024

Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol
Mae gwasanaeth teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio ei blatfform canolfan derbyn larymau digidol newydd.
 
Mae Llinell Ofal Caerffili yn darparu gwasanaeth teleofal i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill yn Ne Cymru.  Mae'r system yn cynnwys uned sylfaen sydd wedi'i gosod yng nghartref yr unigolyn ac mae modd actifadu'r uned honno o bell trwy wasgu botwm sy'n cael ei wisgo o amgylch y gwddf neu ar yr arddwrn.  Unwaith y bydd y larwm wedi'i ganu, bydd yn cysylltu â gweithredwr sy'n gallu siarad â'r unigolyn sy'n galw i ddod o hyd i ba gymorth sydd ei angen.
 
Bu angen newidiadau i'r system i baratoi ar gyfer y newid i rwydwaith ffôn y DU o analog i ddigidol, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2025.  Mae gwaith pellach hefyd wedi'i gynllunio gan y Cyngor i Linell Ofal Caerffili, gan gynnwys gosod larymau teleofal newydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol Cyngor Caerffili, “Mae Llinell Ofal Caerffili yn chwarae rhan amhrisiadwy wrth helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.  Mae hefyd yn cynnig tawelwch meddwl i deuluoedd gan wybod bod modd i'w hanwyliaid gael cymorth 24/7.
 
“Trwy weithredu UMO, y platfform digidol newydd, rydyn ni'n gallu sicrhau ein bod ni'n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf wrth ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud y prosiect hwn yn llwyddiant.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am Linell Ofal Caerffili, ewch neu ffonio 01443 873656.


Ymholiadau'r Cyfryngau