Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Ras Ffordd 10 Cilomedr Caerffili
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2024
Ymgynghoriad cyhoeddus Strategaeth Wastraff ddrafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn fy
News Centre
Ymgynghoriad cyhoeddus Strategaeth Wastraff ddrafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn fyw
Postiwyd ar : 05 Chw 2024
Mae ymgynghoriad cyhoeddus Strategaeth Wastraff ddrafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn fyw.
Mae'r Strategaeth yn nodi'r cyfeiriad strategol a'r cynllun tymor hwy i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd ac yn rhagori ar dargedau perfformiad ailgylchu statudol.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan a dweud eu dweud ar weithrediad arfaethedig y Strategaeth Wastraff ddrafft.
Mae'r Strategaeth yn seiliedig ar bum amcan strategol:
Lleihau cynnydd mewn gwastraff yn gyffredinol.
Cynyddu cyfraddau atgyweirio ac ailddefnyddio.
Cynyddu cyfran ac ansawdd y deunydd sy'n cael ei ailgylchu.
Optimeiddio cyfrannu at ynni adnewyddadwy a'r defnydd ohono.
Helpu ein trigolion ni i reoli gwastraff mewn modd mwy cynaliadwy.
O dan bob un o'r amcanion hyn mae cyfres o gamau gweithredu a fydd yn cael eu cyflawni.
Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r ffordd mae ein Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi yn cael eu rheoli, parhau i gydweithio â sefydliadau partner i hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio, cyflwyno gwasanaeth casglu ailgylchu newydd sy’n cyd-fynd â Glasbrint Llywodraeth Cymru, lleihau amlder casgliadau gwastraff gweddilliol ac archwilio opsiynau i gyflwyno fflyd o gerbydau allyriadau isel iawn. Bydd hyn i gyd yn digwydd gan ddefnyddio systemau TG newydd sy'n ymgorffori technoleg yn y cerbyd.
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Er ein bod ni'n ymwybodol bod ein dulliau Gwastraff ac Ailgylchu presennol yn cael eu ffafrio gan ein trigolion, rydyn ni'n wynebu targedau ailgylchu cenedlaethol heriol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru ac, felly, rydyn ni'n cynnwys amrywiaeth o newidiadau yn ein strategaeth i sicrhau ein bod ni'n cynyddu faint o wastraff sy'n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at adolygu barn ein trigolion ar y newidiadau arfaethedig ac yn annog pawb i gymryd rhan."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn weithredol o 5 Chwefror tan 29 Ebrill 2024.
Wedyn, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod haf 2024 unwaith bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a bod yr ymatebion wedi'u dadansoddi. Bydd yr adroddiad hwn yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer mabwysiadu a chyhoeddi'r strategaeth wastraff ac ailgylchu derfynol.
Mae’r strategaeth ddrafft lawn a’r ymgynghoriad i’w gweld yma.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyhoeddi Julian Simmonds fel Maer newydd
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y