News Centre

busnes lleol llwyddiannus wedi'i gynorthwyo gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar : 14 Chw 2023

busnes lleol llwyddiannus wedi'i gynorthwyo gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Mobile Solutions: busnes lleol llwyddiannus wedi'i gynorthwyo gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig i adleoli o Farchnad Dan Do Caerffili.

Mae'r siop ategolion ac atgyweirio ffonau symudol yng Nghaerffili, Mobile Solutions, a oedd wedi'i lleoli yn y farchnad dan do o'r blaen, nawr wedi'i lleoli yng Nghiosg Market Cross, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, gyda chymorth cyllid wedi'i roi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd Mobile Solutions £30,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cafodd y grantiau hyn eu rhoi i Mobile Solutions trwy ymyriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o Gronfa Ffyniant Gyffredinol y Deyrnas Unedig. Mae hwn wedi helpu'r busnes i symud i'r adeilad newydd yn ogystal â chael gosodiadau a ffitiadau i adnewyddu'r siop, helpu gyda chostau rhentu a phrynu cyfarpar newydd er mwyn gallu cynnig y gwasanaethau sy'n bodoli a rhai newydd i'w cwsmeriaid.

Mae Mobile Solutions yn cynnig gwasanaethau atgyweirio ffonau, ategolion ffonau symudol megis casys ffonau symudol, gwefrwyr, seinyddion, yn ogystal â gwerthu a phrynu ffonau symudol. Mae yna amcanion i ehangu'r busnes ledled y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol.

Ymgysylltodd Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â stondinwyr ym Marchnad Dan Do Caerffili i gynnig cymorth i'w busnesau, a derbyniodd Mr Ahsan Waseem, cyfarwyddwr Mobile Solutions, y cymorth hwn. Yna, gweithiodd y Swyddogion Cymorth Buddsoddi, Sally Harvey a Lauren James, gyda Mr Waseem i sicrhau 2 grant i helpu adleoli i'r uned newydd.

Dywedodd Mr Waseem, “Dechreuon ni'n ôl yn 2012, roeddwn i yn y farchnad nes i Lauren a Sally fy helpu i drwy'r gwaith papur ar gyfer y grant a rhoi arweiniad i fi. Mae'r Cyngor wedi fy helpu i'n fawr. Wrth symud ymlaen, rydw i'n gweithio ar ddelio â busnesau eraill a denu cwsmeriaid i'r busnes. Y gobaith yw y byddwn ni'n dyblu ein refeniw erbyn canol y flwyddyn hon.”

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Rydyn ni wedi gweithio gyda masnachwyr ym Marchnad Dan Do Caerffili i gefnogi ceisiadau am gyllid 50/50 i adleoli i leoliadau eraill yn y dref. Mae'n bleser gweld Mobile Solutions yn ffynnu yn eu lleoliad amlwg, newydd. Hoffwn i ddymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am gymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7WF

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk  

Ffôn: 01443 866220



Ymholiadau'r Cyfryngau