Diweddariad am Gasglu Gwastraff – 18/02/22
Postiwyd ar : 18 Chw 2022
Bydd unrhyw sbwriel neu wastraff bwyd/gardd na chafodd ei gasglu ar ddydd Gwener 18 Chwefror o ganlyniad i Storm Eunice yn cael ei gasglu dydd Sadwrn, 19 Chwefror.
Ar gyfer unrhyw ailgylchu nad yw'n cael ei gasglu, byddwn ni’n dychwelyd ddydd Gwener nesaf ar eich diwrnod casglu arferol a byddwn ni’n cymryd unrhyw wastraff ailgylchu ychwanegol sy’n cael ei osod allan mewn bagiau clir.
Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer dros y penwythnos.
Byddwn ni’n monitro ac yn adolygu sefyllfa'r tywydd ac yn parhau i gyhoeddi diweddariadau ar ein sianeli cyfathrebu.