News Centre

Safle hen eglwys yn darparu cartrefi newydd i saith teulu

Postiwyd ar : 10 Chw 2022

Safle hen eglwys yn darparu cartrefi newydd i saith teulu
Mae preswylwyr wedi symud i gartrefi newydd yn Llys yr Eglwys, Pontllan-fraith, sydd wedi’u hadeiladu ar safle hen Eglwys y Santes Fair.
 
Cafodd digwyddiad ei gynnal ddydd Gwener 28 Ionawr i nodi cwblhau’r cartrefi newydd ac i ddathlu’r bartneriaeth rhwng Housing Justice Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Pobl Group. Ymhlith y gwesteion roedd Esgob Mynwy, Cherry Vann, a roddodd anerchiad byr.
 
Cafodd Eglwys y Santes Fair ei hadeiladu ym 1957 fel rhan o ystâd ehangach wedi’i chynllunio ym Mhenllwyn ar ôl y rhyfel. Caeodd yr eglwys yn 2016 ar ôl bron i 60 mlynedd o wasanaethu’r gymuned.
 
Prynodd Pobl Group y safle gan yr Eglwys yng Nghymru, gyda chymorth menter Ffydd mewn Tai Fforddiadwy Housing Justice Cymru. Mae’r saith cartref newydd rhent cymdeithasol yn cymryd lle Eglwys y Santes Fair sydd wedi cau. Mae'r garreg gysegru o'r eglwys wedi'i chadw a'i hymgorffori yn y datblygiad newydd.
 
Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Kingfisher Developments Ltd a dechreuodd ym mis Mawrth 2020. Caeodd y safle am gyfnod byr ar ddechrau’r pandemig ond datblygodd yn dda yn ystod 2021, a chafodd y cartrefi eu trosglwyddo ym mis Rhagfyr 2021, gyda’r preswylwyr cyntaf yn gallu symud i mewn ychydig cyn y Nadolig.
 
Mae'r datblygiad yn cynnwys dau fflat 1 ystafell wely ar gyfer 2 berson, dau fflat 2 ystafell ar gyfer 3 pherson, un tŷ 2 ystafell wely ar gyfer 4 person, un tŷ 3 ystafell wely ar gyfer 5 person ac un tŷ 4 ystafell gwely ar gyfer 6 pherson.
 
Meddai Ellis Cunliffe, Rheolwr Prosiectau Pobl Group, “Gyda’r datblygiad hwn, rydyn ni wedi ymdrechu i barchu hanes adeilad yr eglwys a’r hyn y mae wedi’i olygu i’r gymuned leol, gan weithio’n agos mewn partneriaeth â Housing Justice Cymru. Rydyn ni hefyd yn dymuno cydnabod cymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru yn llawn ac yn dymuno blynyddoedd hapus lawer i’r preswylwyr newydd yn eu cartrefi newydd.”
 
Dywedodd Sian Bradley, Cydlynydd Partneriaeth Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, Housing Justice Cymru, “Hoffem ni ddiolch i'r Eglwys yng Nghymru a Pobl Group am ymrwymo i’n rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy ni. Ers 2016, rydyn ni wedi bod yn helpu cysylltu eglwysi â sefydliadau tai i ddefnyddio tir sy’n eiddo i eglwysi ac adeiladau segur ar gyfer tai fforddiadwy. Er y gall fod yn gyfnod trist i gynulleidfaoedd eglwysi pan fydd adeiladau eglwysig yn cau, rydyn ni'n cydnabod bod Eglwys y Santes Fair yn dangos bod y canlyniadau'n gallu bod yn gadarnhaol. Mae Llys yr Eglwys yn enghraifft wych o adfywio yng nghalon y gymuned, ac rydyn ni'n cymeradwyo gwaith Pobl Group a Kingfisher Developments i ddarparu’r cartrefi drwy gydol y pandemig, gan gwblhau cartrefi i denantiaid newydd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae darparu cartrefi o ansawdd uchel i helpu cwrdd â'r galw lleol cynyddol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i hyn.  Mae’n wych gweld y safle, a oedd yn wag yn flaenorol, yn cael ei drawsnewid i ddarparu cartrefi newydd yn y gymuned, wrth gadw cysylltiadau â’r hen eglwys hefyd.”
 
Dywedodd yr Esgob Cherry Vann, Esgob Mynwy, “Rydw i’n falch iawn o fod yma yn cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru i ddathlu cwblhau’r prosiect hwn ynghyd â’n partneriaid Housing Justice Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Pobl Group. Y weledigaeth wreiddiol ar gyfer yr adeilad hwn yn ôl yn y 1950au oedd iddo fod yn dŷ gweddi, yn fan a oedd yn symbol o bresenoldeb Duw yn y gymuned hon ac yn ofod ysbrydol lle gallai pobl ddod i nodi cyfnodau arwyddocaol yn eu bywydau nhw drwy fedyddiadau, priodasau ac angladdau. Roedd yn lle i Gristnogion ymgynnull i addoli ac i estyn allan mewn gwasanaeth i'r gymuned. Rydw i wrth fy modd, er bod yr adeilad hwn wedi cau fel eglwys, ei fod yn parhau i wasanaethu’r gymuned drwy ddarparu lloches a thai y mae mawr eu hangen. Ni ddylem ni fyth ddiystyru pwysigrwydd cael tai fforddiadwy o ansawdd da ar gyfer pobl leol. Mae tai yn darparu cysgod rhag yr elfennau, ond maen nhw hefyd yn gartrefi, yn rhoi ymdeimlad o le a pherthyn i bobl mewn cymuned ac yn ofod i fyw ynddo gyda chysur a diogelwch. Mae’n galonogol gweld y prosiect yn dwyn ffrwyth ac i’r cartrefi newydd hyn gael eu meddiannu, a braf yw bod yma i’w ddathlu gyda’n gilydd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau