News Centre

Cynllun tai arloesol, Allweddi Caerffili, i barhau

Postiwyd ar : 23 Chw 2022

Cynllun tai arloesol, Allweddi Caerffili, i barhau
Mae Allweddi Caerffili, cynllun prydlesu sector preifat arloesol, ar fin parhau â'i waith i atal digartrefedd.
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’r fenter barhau i gael ei chyflawni gan ei Dîm Atebion Tai.

Mae'r tîm wedi darparu Allweddi Caerffili yn llwyddiannus ers dros dair blynedd, gan baru pobl ag eiddo addas a darparu cymorth i'r tenant a'r landlord i gynnal y denantiaeth.

Ar hyn o bryd, mae dros 100 o gartrefi wedi'u cofrestru gyda'r cynllun ac mae'r prosiect wedi helpu llawer o deuluoedd ac unigolion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys ailgartrefu'r rhai a oedd yn cysgu allan yn flaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Allweddi Caerffili oedd y cynllun cyntaf o’i fath ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni'n parhau i’w gyflawni ac yn anelu at adeiladu ar ei lwyddiannau blaenorol.
“Gyda dros 50 o landlordiaid wedi'u cofrestru ar hyn o bryd gydag Allweddi Caerffili, mae'r cynllun yn fodel sefydledig y gellir ymddiried ynddo.  Mae’n cynnig cyfoeth o fuddion, ac mae'n gynllun sydd â hanes profedig o atal digartrefedd, wrth helpu hefyd landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid addas ar gyfer eu cartrefi nhw.”

I gael gwybod rhagor am Allweddi Caerffili, ewch i www.caerphillykeys.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau