News Centre

Cymorth a chyllid i fusnesau ar-lein un i un ar gael nawr

Postiwyd ar : 14 Chw 2022

Cymorth a chyllid i fusnesau ar-lein un i un ar gael nawr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o gyflwyno ein Clinig Cymorth a Chyllid i Fusnesau Ar-lein ni, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. 
 
Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio i ddarparu cymorth ariannol un i un i fusnesau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, a byddan nhw'n cael eu cynnal bob yn ail fis drwy gydol y flwyddyn.
 
Drwy gydweithio â Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, gall Tîm Cymorth Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, cynorthwyo busnesau gyda chyllid i brynu offer newydd neu, hyd yn oed, i brynu busnes.
 
Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal yn rhithwir ar hyn o bryd; fodd bynnag, gyda chyfyngiadau'n parhau i gael eu llacio, gallai sesiynau wyneb yn wyneb ddod yn y dyfodol agos.
 
Dywedodd Claire Vokes, Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu, “Rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi gweld galw mor gryf am ein clinigau cymorth busnes ni, ynghyd ag ymatebion cadarnhaol gan y busnesau hynny sydd wedi bod yn cymryd rhan hyd yn hyn.
 
“Rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod busnesau’n cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio tyfu neu ddatblygu, ac mae’r sesiynau rydyn ni wedi’u cynnal wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar bawb sydd wedi cymryd rhan.
 
“Byddwn i'n annog unrhyw fusnesau sydd â diddordeb a sydd ddim wedi ymuno eto i weld a allwn ni eu helpu nhw, ac i edrych ar y dyddiadau ychwanegol.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Mae rhedeg neu ddechrau busnes yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheolaeth ariannol, gallu trefniadol, gwybodaeth am farchnata a llawer mwy.

“Trwy ein clinig cymorth a chyllid i fusnesau ar-lein ni, gallwn ni helpu datblygu’r arbenigedd a’r cyllid y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus.”

P'un a ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol.

Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ar 16 Chwefror 2022. I gadw eich lle chi, e-bostiwch Claire.vokes@bancdatblygu.cymru.
 
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'n Tîm Cymorth Busnes ni drwy e-bostio MarchnataCymorthBusnes@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau