News Centre

Arweinydd y Cyngor yn canmol gweithlu ymroddedig am ymdrech anhygoel yn ystod y stormydd

Postiwyd ar : 21 Chw 2022

Arweinydd y Cyngor yn canmol gweithlu ymroddedig am ymdrech anhygoel yn ystod y stormydd
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi canmol y staff gweithgar a weithiodd ddydd a nos dros y penwythnos i amddiffyn y gymuned yn ystod y stormydd diweddar.
 
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, “Fe wnaeth ein gweithlu ymroddedig wynebu rhai o’r amodau gwaethaf rydyn ni wedi’u gweld mewn blynyddoedd diweddar i gefnogi ac amddiffyn y gymuned a hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu hymdrechion.”
 
“Fe aeth timau o wasanaethau amrywiol gan gynnwys priffyrdd, parciau, tai, gwastraff, diogelu’r cyhoedd, gofal cymdeithasol ac arlwyo y tu hwnt i’r galw ac rwy’n siŵr y bydd y gymuned gyfan yn ymuno â mi i gydnabod eu hymdrechion anhygoel.
 
Dyma enghraifft o Dîm Caerffili ar ei orau ac rwy’n hynod falch o bawb dan sylw.”
 
Roedd ymateb brys y Cyngor yn cynnwys:
 
  • Delio gyda 90 o goed a gwympodd
  • Rheoli 25 o ffyrdd ar gau er mwyn cael gwared ar rwystrau
  • Ymateb i dros 400 o alwadau i'r llinell gymorth y tu allan i oriau
  • Delio â digwyddiadau mawr
  • Archwilio a chlirio 480 o gwlfertau
  • Parhau i archwilio a chlirio 226 o gwlfertau risg uchel
  • Ymateb i rwystrau cwteri a llifogydd i rwydwaith ffyrdd Caerffili 
Ychwanegodd y Cynghorydd Marsden, “Rwy’n siŵr bod ein hymateb cyflym ac effeithiol dros y dyddiau diwethaf yn rhoi sicrwydd i’r gymuned gyfan bod gennym ni weithlu ymroddedig a galluog sy’n barod i ymateb beth bynnag fo’r tywydd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau