News Centre

Mesurau pellach o ran diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer y B4251, Ynys-ddu i Wyllie, wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet

Postiwyd ar : 14 Chw 2022

Mesurau pellach o ran diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer y B4251, Ynys-ddu i Wyllie, wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cyllid gwerth £350,000 i wneud gwelliannau priffyrdd pellach ar ffordd allweddol rhwng Wyllie ac Ynys-ddu i helpu lleihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau pellach ar y ffordd hon.

O ganlyniad i nifer o ddamweiniau ar hyd y B4251, comisiynodd y Cyngor astudiaeth ar y rhan o’r ffordd 60 mya oedd wedi’i dad-gyfyngu ar y pryd, sy’n dechrau ym mhen gogleddol Ynys-ddu ac yn dod i ben ychydig i’r de o gylchfan Gelligroes ar yr A472 ac yn cynnwys y rhan 40 mya yn arwain at y gylchfan.

Mae wyth tro ar hyd y rhan o'r ffordd a oedd yn rhan o'r adolygiad. Mae'r rhan hon o'r ffordd yn llwybr sydd wedi'i hen sefydlu ac nad yw'n cydymffurfio â safonau dylunio priffyrdd presennol fel llawer o'r ffyrdd yn y wlad. Roedd y terfyn cyflymder wedi’i ddynodi’n flaenorol yn 60 mya ond cafodd y terfyn cyflymder hwn i leihau wedyn i 40 mya yn dilyn yr astudiaeth diogelwch ar y ffyrdd i helpu gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Canfu’r astudiaeth fod 9 damwain wedi’u cofnodi ers 2014 ar hyd y rhan gyfan o’r ffordd yn yr astudiaeth, gan gynnwys un ddamwain ‘fach’ o fewn y rhan a oedd yn rhan 40 mya bryd hynny ym mhen gogleddol y ffordd. Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o ddamweiniau wedi digwydd ar rannau syth, rhaid nodi bod y darnau syth yn gymharol fyr, gyda'r hiraf tua 300 metr o hyd ac, ar y cyflymder cyfartalog, ac mae gyrwyr yn dod ar draws y troadau yn gyflym. Felly, hyd yn oed pan fydd ar ran syth, mae'r gyrrwr bob amser yn gadael tro neu'n paratoi i fynd i mewn i'r nesaf.

O ganlyniad i'r astudiaeth hon, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili raglen waith ar y B4251 Newport Road yn 2020 i helpu lleihau cyflymder traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd i fodurwyr a cherddwyr. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys gosod wynebau newydd, gosod arwyddion ceibr (chevrons), llinellau gwyn solet i gyfyngu ar symudiadau goddiweddyd a lleihau'r terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya.

Yn dilyn cwblhau’r mesurau diogelwch hyn, cychwynnodd gwaith cwympo coed sylweddol ym mis Medi 2020 i gael gwared ar glefyd coed ynn (Chalara). Fe wnaeth cael gwared ar y coed aeddfed hyn agor yr argloddiau a chreu peryglon ychwanegol ac roedd y cyhoedd yn poeni unwaith eto ynghylch diogelwch ar y ffyrdd gan annog swyddogion i adolygu ac ystyried opsiynau diogelwch pellach.

Croesawodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac aelod ward lleol, y Cynghorydd Philippa Marsden, y newyddion, “Mae’r ffordd hon wedi bod yn lleoliad nifer o ddamweiniau dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd gosod y ffens ddolen gadwyn gyda physt concrit hon ar hyd y rhan brysur hon o’r briffordd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr.

“Dyma enghraifft arall o'r Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i wella'r rhwydwaith priffyrdd lleol er budd teithwyr,” meddai wedyn.

Dywedodd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, “Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi a gwella ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol gan ein bod ni am gael y pethau sylfaenol yn gywir a sicrhau eu bod nhw'n ddiogel ac mewn cyflwr da i gerddwyr a gyrwyr eu defnyddio. Ar ôl cyflawni'r gwelliannau, bydd y Cyngor yn eu monitro nhw yn barhaus, ac yn eu hadolygu nhw, i fesur eu heffeithiolrwydd nhw.



Ymholiadau'r Cyfryngau