News Centre

Ysgol Fabanod Cwmaber yn dathlu statws platinwm

Postiwyd ar : 18 Chw 2022

Ysgol Fabanod Cwmaber yn dathlu statws platinwm
Mae disgyblion yn Ysgol Fabanod Cwmaber wedi profi eu rhinweddau gwyrdd ar ôl ennill gwobr eco bwysig.

Derbyniodd yr ysgol wobr fawreddog y Faner Platinwm ar ôl ennill tair Gwobr y Faner Werdd yn flaenorol diolch i raglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy’n cael ei rhedeg yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr o newid yn eu cymuned, gan eu helpu nhw i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang wrth roi’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, eu hamgylchedd lleol a’r gymuned ehangach, megis lleihau gwastraff a defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a materion sbwriel.

Fel rhan o’u hasesiad Platinwm Eco-Sgolion, cwblhaodd Ysgol Fabanod Cwmaber sesiwn codi sbwriel yn yr ardal leol a chynnal protest fechan i ddangos i eraill am bwysigrwydd cadw ein hardal leol yn lân ac yn daclus.

Meddai’r Cydlynydd Eco, Sali Davies, “Mae’r plant wedi gweithio’n arbennig o galed ac wedi cael syniadau gwych am sut i fynd i'r afael â'r problem sbwriel yn yr ardal leol”

Ychwanegodd y tîm Eco-Sgolion, "Mae'r Faner Blatinwm yn gyflawniad trawiadol iawn ac mae'n tynnu sylw at y brwdfrydedd a'r ymrwymiad sydd gan Ysgol Fabanod Cwmaber tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae ymroddiad yr Eco-bwyllgor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn ysbrydoledig. Hoffwn i longyfarch a diolch i’r holl ddisgyblion a staff a gymerodd ran am eu gwaith caled nhw!”

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran er mwyn ennill y wobr fawreddog hon. Rydyn ni yng Nghyngor Caerffili yn falch iawn o'r ymrwymiad a ddangoswyd gan staff a disgyblion.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion, ewch i https://accounts.keepwalestidy.cymru/cartref


Ymholiadau'r Cyfryngau