News Centre

Y Cyngor yn rhybuddio tenantiaid am 'ffermwyr hawliadau'

Postiwyd ar : 16 Chw 2022

Y Cyngor yn rhybuddio tenantiaid am 'ffermwyr hawliadau'
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhybuddio tenantiaid i fod yn wyliadwrus o 'ffermwyr hawliadau' sy'n gweithredu yn yr ardal.

Mae'r cwmnïau yn gweithredu trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys galw diwahoddiad, pamffledi a'r cyfryngau cymdeithasol i annog tenantiaid i fwrw ymlaen â hawliadau yn erbyn ei landlord am ddiffyg atgyweirio.  Wedyn, yn y mwyafrif o achosion, bydd gan denantiaid gostau cyfreithiol i'w talu hyd yn oed os ydyn nhw'n tynnu'u hawliad yn ôl.

Mae neges y Cyngor yn dod ar ôl sawl digwyddiad yn y Fwrdeistref Sirol lle cafodd tenantiaid sy'n agored i niwed eu targedu gan gwmnïau o'r math.  Mae achosion blaenorol y mae'r Cyngor wedi deilio â nhw yn cynnwys cwmnïau rheoli hawliadau yn oedi cyn cyflwyno’r hawliad nes bod cyfnod ailfeddwl y tenant wedi dod i ben.  Yn yr achosion hyn, mae'r Cyngor wedi cwblhau'r atgyweiriadau yn y cyfamser, gan arwain at wrthdroi'r hawliad.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydyn ni wedi cael gwybod am nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar lle mae tenantiaid wedi cael eu targedu dros y ffôn, negeseuon testun a galwadau carreg drws gan gwmnïau ‘ffermwyr hawliadau’.  Mae'r cwmnïau hyn yn gweithredu drwy annog tenantiaid i lofnodi cytundeb ac, yna, mae eu manylion nhw'n cael eu gwerthu i gwmni cyfreithiol, sydd, yn aml, yn codi ffioedd sylweddol y mae angen i'r tenant eu talu.

“Rydyn ni'n annog tenantiaid i fod yn wyliadwrus o unrhyw alwadau diwahoddiad y maen nhw'n eu cael ac i geisio cyngor gan swyddogion y Cyngor cyn arwyddo unrhyw ddogfennau.  Mae tenantiaid hefyd yn cael eu hatgoffa, fel rhan o’u Cytundeb Tenantiaeth nhw, fod yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i ni’n gyflym os oes angen unrhyw atgyweiriadau yn y cartref.”

Gall tenantiaid y Cyngor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili roi gwybod am atgyweiriadau a cheisio cyngor gan eu swyddfa dai leol nhw drwy ffonio 01443 873535 neu ymweld â.


Ymholiadau'r Cyfryngau