News Centre

Cyllideb Caerffili yn ‘amddiffyn gwasanaethau ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau’

Postiwyd ar : 23 Chw 2022

Cyllideb Caerffili yn ‘amddiffyn gwasanaethau ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau’
Gallai trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili weld cynnydd o 1.9% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2022/23, yn lle’r cynnydd o 2.5% a oedd wedi'i gynllunio'n wreiddiol.
 
Cyfarfu Cabinet Cyngor Caerffili heddiw (dydd Mercher 23 Chwefror) i gwblhau’r gyllideb newydd a gwnaethon nhw gytuno'n unfrydol i ailystyried y cynnydd yn nhreth y cyngor yn dilyn adborth gan y cyhoedd. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid, “Roedd cynigion y gyllideb ddrafft wreiddiol yn cynnwys cynnydd o 2.5%, sy’n llawer is na chyfradd chwyddiant a’r cynnydd isaf ers nifer o flynyddoedd.
 
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi gwrando ar y gymuned ac yn ymwybodol o’r pwysau sylweddol ar gyllidebau cartrefi, felly, mae cynigion y gyllideb derfynol bellach yn cynnwys cynnydd arfaethedig is o ran treth y cyngor o 1.9%. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd wythnosol o 45c ar gyfer eiddo Band D”
 
Mae rhai o’r prif ffigurau sydd wedi’u cynnwys yng nghynigion y cyllid yn cynnwys:
 
  • £9.6 miliwn o fuddsoddiad newydd ar gyfer gwasanaethau allweddol
  • Bydd £5.7 miliwn o hwn yn cael ei dargedu’n benodol at wasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys addewid i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol
  •  £250,000 ar gyfer cynllun prentisiaeth newydd y Cyngor
  • Buddsoddiad mewn gwasanaethau diogelwch y cyhoedd i gynyddu capasiti mewn timau allweddol megis safonau masnach, gorfodi ac iechyd yr amgylchedd
  • Buddsoddiad newydd mewn mesurau rheoli chwyn ychwanegol
  • Buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel
  • £235,000 i helpu targedu gwaith atal llifogydd ac diogelu cymunedau agored i niwed  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Eleni, rydyn ni wedi gweithio’n galed i greu cyllideb gytbwys sy’n diogelu ein gwasanaethau allweddol ni ac yn gwarchod y gymuned rhag toriadau, diolch i’n dull darbodus ni.
 
“Yn ogystal â hyn, rydyn ni hefyd yn buddsoddi’n sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol a fydd yn sicrhau buddion enfawr, yn enwedig y £5.7 miliwn o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i amddiffyn a diogelu ein trigolion mwyaf agored i niwed ni.
 
“Dyma gyllideb rwy’n falch iawn ohoni, ac mae’n enghraifft wych arall o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni drwy gydweithio fel Tîm Caerffili,” ychwanegodd.
 
Bydd cynigion y gyllideb derfynol yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ddydd Iau 24 Chwefror.


Ymholiadau'r Cyfryngau