News Centre

Cabinet yn cymeradwyo gorchmynion rheoleiddio traffig parhaol ger tair ysgol gynradd

Postiwyd ar : 09 Chw 2022

Cabinet yn cymeradwyo gorchmynion rheoleiddio traffig parhaol ger tair ysgol gynradd
Yn ddiweddar, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhelliad bod y gorchmynion rheoleiddio traffig arbrofol ger tair ysgol gynradd yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu gwneud yn barhaol.

Mae parthau i gerddwyr a beicwyr wedi cael eu rhoi ar waith ar sail arbrofol i ddechrau ym mis Medi 2020, ar ôl cael cyllid gan Gronfa Teithio Cynaliadwy Lleol mewn Ymateb i COVID-19 Llywodraeth Cymru, gyda'r cynlluniau mewn grym am gyfnod o 18 mis.

Dyma'r tair ysgol gynradd sydd wedi cael eu dewis:

· Ysgol Gynradd Libanus, Coed Duon
· Ysgol Gynradd Rhisga
· Ysgol Gynradd y Twyn, Caerffili

Cafodd y pedair ysgol eu dewis gan fod eu lleoliadau nhw yn cael eu hystyried yn ddichonadwy ar gyfer y mesurau ac roedd yn bosibl cyflawni'r gofynion o ran arwyddion a mynediad angenrheidiol ym mhob un o'r safleoedd.

Cafodd pob trigolyn ac athro drwyddedau eithrio sy'n caniatáu iddyn nhw yrru ar hyd y strydoedd a gafodd eu heffeithio yn ystod y cyfnod cau. Mae deiliaid bathodynnau glas hefyd wedi'u heithrio o'r cyfyngiadau.

Yn anffodus, nid oes gan Heddlu Gwent adnoddau digonol i ddarparu’r lefel o orfodi y mae ei hangen ar y cynlluniau i fod yn gwbl effeithiol. O ystyried hyn, ni fydd unrhyw gynlluniau newydd/ychwanegol o ran strydoedd ger ysgolion yn cael eu gweithredu oherwydd y pwysau ychwanegol y byddai hyn yn ei roi ar adnoddau Heddlu Gwent, yn ogystal â’r feirniadaeth bosibl y gallai’r Cyngor ei ddioddef oherwydd y diffyg gorfodi.

Mae’r cynlluniau arbrofol wedi bod ar waith ers tua 17 mis a, thrwy gydol y cyfnod hwn, mae’r cyhoedd wedi cael cyfle i wneud sylwadau am y mesurau neu eu gwrthwynebu nhw fel rhan o’r broses gorchymyn rheoleiddio traffig arbrofol.

I gloi, cafodd y cynlluniau eu derbyn yn dda yn gyffredinol yn eu cymunedau, ac roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr i'r arolwg yn teimlo bod y cynlluniau yn darparu rhai buddion cyffredinol ac y dylen nhw aros yn eu lle.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, "Ein blaenoriaeth erioed yw gwneud strydoedd y Fwrdeistref Sirol yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a gyrwyr. Yn achos llawer o ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol, gall y cyfnodau ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol achosi tagfeydd traffig, problemau parcio ac, yn bwysicaf oll, bryderon diogelwch ar y ffyrdd. Felly, mae lleihau nifer y cerbydau ger ein hysgolion yn hanfodol ar gyfer diogelwch ein disgyblion, rhieni a'n staff.

“Ar 4 Mehefin 2019, datganodd Cyngor Caerffili argyfwng hinsawdd hefyd, ac mae’n bwysig ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i leihau allyriadau carbon ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd cymeradwyo’r gorchmynion rheoleiddio traffig parhaol ger tair ysgol gynradd yn helpu i gyfrannu at hyn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau