News Centre

Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion

Postiwyd ar : 08 Rhag 2023

Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa staff, trigolion a busnesau bod ei apêl banc bwyd Nadoligaidd yn dal i fod ar agor ar gyfer rhoddion.

Mae banciau bwyd yn darparu bwyd a chymorth brys i deuluoedd ac unigolion mewn argyfwng ariannol. Maen nhw'n dibynnu’n fawr ar roddion, yn enwedig dros y Nadolig, ac maen nhw wedi gweld cynnydd yn y galw am eu cymorth oherwydd y costau byw cynyddol.

Mae’r Cyngor yn casglu rhoddion ariannol fel rhan o apêl eleni er mwyn galluogi banciau bwyd i brynu’r cyflenwadau y maen nhw wir eu hangen.

Gallwch chi roi rhoddion ar-lein, drwy wefan y Cyngor.  Bydd yr apêl yn cau am roddion am hanner dydd, dydd Gwener 15 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd lleol, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ymweld â Caerffili.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau