News Centre

Llwyddiant i Sêl Sydyn Teganau gyntaf Siop Ailddefnyddio Penallta

Postiwyd ar : 23 Rhag 2022

Llwyddiant i Sêl Sydyn Teganau gyntaf Siop Ailddefnyddio Penallta
Mae sêl teganau “llenwi bag am £1” Siop Ailddefnyddio Penallta wedi bod yn llwyddiannus.

Yn gynharach eleni, lansiodd Siop Ailddefnyddio Penallta a Wastesavers apêl argyfwng gan ofyn i drigolion roi teganau sydd wedi'u defnyddio, diangen wrth agosáu at y Nadolig. Roedd teganau wedi'u rhoi, ynghyd â llyfrau a DVDau i blant wedi cael eu defnyddio yn y sêl sydyn teganau.

Roedd y sêl teganau yn galluogi siopwyr i lenwi bag ag eitemau yn y cynnig am £1 yn unig, gyda'r holl elw er budd Banc Bwyd Caerffili.

Roedd y sêl, a gafodd chynnal ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr a dydd Sadwrn 10 Rhagfyr, wedi arwain at werthu 63 bag o deganau.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff: “Rydyn ni wrth ein bodd i wybod bod cynifer o deuluoedd wedi cael budd o sêl sydyn teganau Siop Ailddefnyddio Penallta.

“Mae'r fenter wir yn ymgorffori popeth mae Siop Ailddefnyddio Penallta yn ei gynrychioli, gyda hen deganau'n cael eu rhoi, a'u gwerthu i'r rhai sydd eu hangen, am brisiau gwych, gyda'r holl elw yn mynd yn ôl i'r gymuned trwy elusennau lleol.”

Meddai Alun Harries, Rheolwr Elusen gyda Wastesavers; “Roedd ymateb y cyhoedd i'n galwad ni am roddion yn wych. Roedd miloedd o deganau wedi'u rhoi i ni a hoffem ni ddiolch i bawb a gymerodd rhan. Byddai llawer o'r teganau hyn bron yn sicr wedi mynd i'r sgipiau ailgylchu – maen nhw nawr wedi dod o hyd i gartref da.

“Roedd y cynnig “bag o deganau am £1” Nadolig cyntaf hwn yn well na'r disgwyl, mae wir wedi helpu i wneud y Nadolig ychydig yn fwy fforddiadwy i nifer o deuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Am ragor o wybodaeth am Siop Ailddefnyddio Penallta, ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/recycle-and-reduce-waste/penallta-reuse-shop?lang=cy-gb neu i gael gwybod am y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf, dilynwch ‘The Penallta Reuse Shop’ ar Facebook. 


Ymholiadau'r Cyfryngau