News Centre

Rhestr Wirio Ailgylchu dros y Nadolig

Postiwyd ar : 06 Rhag 2022

Rhestr Wirio Ailgylchu dros y Nadolig
Rydyn ni'n cynhyrchu mwy o wastraff adeg y Nadolig nag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn, felly, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn ceisio ailgylchu lle gallwn ni.

O fwy o wastraff bwyd, i bapur lapio a blychau cardbord – mae yna ddigon o wastraff sy'n gallu cael ei ailgylchu. Dyma rai o'n hawgrymiadau defnyddiol i helpu gyda'ch ailgylchu dros y Nadolig.
 
  1. Mae swm syfrdanol o dros 7 miliwn tunnell o fwyd yn bennu lan yn y bin bob Nadolig yn y Deyrnas Unedig, ac er dylen ni i gyd fod yn gwneud ein gorau i’w leihau, mae gwastraff bwyd yn anochel, ac felly dylai gael ei ailgylchu.Cofiwch, os ydych chi'n disgwyl mwy o wastraff bwyd nag arfer, mae modd gofyn am gadi gwastraff bwyd ychwanegol am ddim, yma.
  2. Rydyn ni'n defnyddio mwy o flychau cardbord dros y Nadolig nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn. Cofiwch dorri'r holl flychau cardbord yn ddarnau llai cyn eu rhoi nhw yn eich bin ailgylchu, yn barod i'w casglu.
  3. Er bod papur lapio sgleiniog, â gliter yn edrych yn hyfryd, gall fod yn anodd iawn ei ailgylchu. Fel rheol, rydyn ni'n awgrymu'r prawf gwasgu. Gwasgwch eich papur lapio yn bêl yn eich llaw, pan fyddwch chi'n agor eich llaw a yw'r papur yn parhau i fod wedi'i wasgu, neu a yw'n agor yn ôl i'w siâp gwreiddiol? Os yw'n aros wedi'i wasgu, mae'n debygol ei fod e'n gallu cael ei ailgylchu.
  4. Mae modd ailgylchu'r mwyafrif o gardiau ac amlenni. Nid oes modd ailgylchu addurniadau fel rhubanau neu gliter, felly, rhwygwch y darnau hynny i ffwrdd yn gyntaf.
  5. Cofiwch, ni ddylai batris byth gael eu rhoi mewn bin sbwriel gan maen nhw'n gallu dod yn berygl tân. Yn lle hynny, ewch â'ch hen fatris i gael eu hailgylchu.
    Ni fu erioed yn haws ailgylchu eich hen fatris, ac mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr bwynt ailgylchu batris. Cewch ragor o wybodaeth yma.
    Gallwch chi ailgylchu batris hefyd yn eich Canolfan Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu leol.
  6. Mae modd cael gwared ar goed Nadolig ‘go iawn’ yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, neu eu torri nhw'n ddarnau hawdd eu trin a'u rhoi nhw yn y man casglu wrth ymyl y ffordd gydag unrhyw wastraff arall o'r ardd.
  7. Os nad oes lle yn eich bin ailgylchu, mae modd rhoi'r eitemau ychwanegol mewn bagiau plastig clir yn barod i'w casglu.
  8. Cofiwch, efallai bydd newidiadau i'ch amseroedd casglu biniau wrth i'n criwiau ni gymryd diwrnod o wyliau i ddathlu gyda'u hanwyliaid. 
Eisiau cadw'r rhestr hon? Lawrlwythwch ein rhestr wirio ailgylchu ddefnyddiol.


Ymholiadau'r Cyfryngau