Gofyn am fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd
Os yw'ch bin olwynion ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, neu os ydych wedi symud i mewn i eiddo ac nid oes biniau yno, gallwch eu prynu ar-lein. Rydym yn codi tâl am finiau – ar gyfer costau gweinyddu a dosbarthu.
Gofyn am fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Rydym yn rhoi cadis gwastraff bwyd am ddim, a gallwch wneud cais am un drwy lenwi'r ffurflenni canlynol:
Gofynnwch am gadi bwyd allanol Gofynnwch am gadi bwyd mewnol
Fel arall, gallwch gysylltu â Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.
Bydd angen talu wrth wneud cais. Gallwch dalu â cherdyn credyd/debyd dros y ffôn, neu dalu ag arian parod yn unrhyw un o'n swyddfeydd arian.
Faint mae’n costio?
Taliadau bin ar gyfer 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023
Bin ailgylchu brown
|
Y bin cyntaf i’w roi i’r eiddo
|
£26.52
|
Bin ailgylchu brown
|
Bin newydd
|
£26.52
|
Bin gwastraff gwyrdd
|
Y bin cyntaf i’w roi i’r eiddo
|
£26.52
|
Bin gwastraff gwyrdd
|
Bin newydd
|
£26.52
|
Cadis bwyd
|
Y cadi cyntaf i’w roi i’r eiddo a chadi newydd
|
AM DDIM
|
Sachau gwastraff gardd
|
Y cadi cyntaf i’w roi i’r eiddo a chadi newydd
|
£3.18
|
Bocs ailgylchu
|
Y cadi cyntaf i’w roi i’r eiddo a chadi newydd
|
£6.36
|
Ein nod yw dosbarthu eich bin ar y dyddiad nesaf sydd ar gael ar gyfer eich ardal a fydd yn cael ei gadarnhau trwy e-bost unwaith i chi gyflwyno'ch cais.
Os dewiswch beidio â phrynu bin sbwriel, cewch chi ddefnyddio bagiau du yn lle. Fodd bynnag, dim ond uchafswm o 4 bag y byddwn ni’n ei gasglu bob pythefnos sy'n cyfateb i'r hyn a fydd yn ffitio mewn bin olwynion 240 litr.
Gall ad-daliadau i ganslo cais am fin ond cael eu prosesu os derbyniwyd o leiaf 48 awr cyn i’r bin gael ei amserlenni i’w ddosbarthu. Nid oes gostyngiadau nac opsiwn i dalu mewn rhandaliadau ar gael
Rwy'n dymuno newid maint fy min sbwriel.
Os ydych yn dymuno newid maint eich bin i un mwy neu lai cysylltwch â Strategaeth Gwastraff a Gweithrediadau. Os ydych yn dymuno cyfnewid eich bin 140 litr am fin 240 litr, byddwn dim ond yn cyfnewid os yw maint eich teulu yn gofyn am y gallu ychwanegol ac rydym yn fodlon eich bod yn ailgylchu cymaint â phosibl. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Mae fy min wedi cael ei ddifrodi neu eu cymryd gan y criw casglu
Os yw eich bin yn cwympo i mewn i gefn y lori neu’n cael ei ddifrodi wrth iddo gael ei wacau, bydd y criw casglu yn gwneud cofnod o hyn a byddwch yn derbyn bin newydd yn rhad ac am ddim.
Mae fy min wedi mynd ar goll neu wedi’u fandaleiddio/ddwyn. Oes dal rhaid i mi dalu?
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich bin yn cael ei gadw’n ddiogel. Byddwn yn argymell i chi edrych o gwmpas eich eiddo ac i wirio bod eich cymydog ddim wedi cymryd eich bin ar gam cyn gwneud cais am fin newydd. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’ch bin bydd rhaid i chi archebu un newydd.
Sut gallaf atal fy min rhag cael ei ddwyn?
Marciwch eich bin yn glir gyda rhif neu enw eich eiddo. Peidiwch â rhoi eich bin allan yn rhy gynnar cyn i’r sbwriel cael ei gasglu a symudwch eich bin nôl tu fewn eich eiddo cyn gynted ag sy’n bosib ar ôl i’r casgliad cael ei wneud.
Pam nad yw fy nhreth y cyngor yn talu’r gost?
Mae ychydig o dreth y cyngor yn mynd tuag at gasglu a gwaredu gwastraff, ond nid yw'n cynnwys cost y biniau.
Oes rhaid i mi dalu am fin ar gyfer eiddo newydd?
Bydd rhaid i chi archebu bin newydd os yw’n adeilad hunan-adeiladol. Os ydych wedi prynu tŷ newydd wrth ddatblygydd, bydd rhaid i chi wirio hyn gyda’r datblygydd oherwydd gall fod y bin wedi cael ei gynnwys yn yr arwerthiant. Os na, bydd rhaid i chi dalu.