News Centre

Mae'r Nadolig wedi dod yn gynnar i ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Mae'r Nadolig wedi dod yn gynnar i ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili
Mae ailgylchwr gwastraff bwyd arall wedi cael £500 fel rhan o ymgyrch Gweddillion am Arian Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Lyndsey Foyster o Draethen yw nawfed enillydd yr ymgyrch gwastraff bwyd a chyflwynwyd siec o £500 iddi hi ar ei stepen drws gan dîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Caerffili, a daeth hyd yn oed Siôn Corn gyda nhw ar gyfer yr achlysur.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Tra bo’r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd, gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Meddai Ms Foyster: "Rydw i wedi bod yn ailgylchu fy ngwastraff bwyd cyhyd ag ydw i'n gallu cofio, rydw i'n credu ei fod e mor bwysig ac mae wir yn cael effaith cadarnhaol ar yr amgylchedd. Doeddwn i erioed wedi clywed am yr ymgyrch Gweddillion am Arian cyn ennill gan fy mod i wastad wedi ailgylchu beth bynnag, ond rydw i'n hapus i weld yr awdurdod lleol yn annog ac yn gwobrwyo'r rhai sy'n ailgylchu."

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: "Yn gyntaf, hoffwn i longyfarch Ms Foyster ar ennill a dweud diolch iddi hi am gymryd rhan yn ein hagenda ailgylchu gwastraff bwyd.

“Mae’n wych ein bod ni wedi gallu gwobrwyo ailgylchwr gwastraff bwyd arall am ei ymdrechion, ac rydw i’n siŵr y bydd yr enillion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gyda’r Nadolig ar y gorwel.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu cyhoeddi tan fis Mawrth 2023.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau