News Centre

Menter ailgylchu batris Caerffili yn cael effaith bositif mewn ysgolion

Postiwyd ar : 15 Rhag 2022

Menter ailgylchu batris Caerffili yn cael effaith bositif mewn ysgolion
Mae pedair ysgol leol wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion o ran ailgylchu batris ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r fenter ailgylchu batris flynyddol, mewn partneriaeth â European Recycling Platform, yn cynnwys disgyblion yn dod â hen fatris o'r cartref i'r ysgol i'w hailgylchu, gan helpu i'w cadw nhw allan o'r llif gwastraff.
Mae pob ysgol sy'n cymryd rhan yn cystadlu ag ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol i ennill gwobrau cyffrous mewn seremoni wobrwyo arbennig ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Bu'r gystadleuaeth eleni yn hynod gystadleuol gyda dros dunnell o fatris yn cael eu hailgylchu, ond daeth Ysgol Iau Cwmaber, Ysgol Penalltau, Ysgol Gynradd Libanus ac Ysgol Fabanod Tŷ Isaf i'r brig a'u cyhoeddi'n enillwyr.

Enillodd pob ysgol fuddugol £100 ar ffurf talebau Amazon, gydag Ysgol Iau Cwmaber yn ennill taleb Amazon ychwanegol gwerth £100 am gael y pwysau mwyaf – gyda'u batris i'w hailgylchu yn pwyso 92 cilogram
.
Yn y Deyrnas Unedig, cafodd tua 40,000 tunnell o fatris cludadwy eu gwerthu yn 2020, gyda dim ond tua 18,000 tunnell yn cael ei ailgylchu. Gall batris gynnwys cemegau niweidiol, felly dylid eu gwaredu'n gywir bob amser.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff: “Mae'n wych gweld ein hysgolion lleol yn cymryd rhan yn y fenter hon. Yn ystod fy ymweliad â'r ysgolion buddugol, gwnaeth brwdfrydedd y plant dros ailgylchu argraff fawr arnaf a chawsom ni drafodaeth wych am wastraff bwyd.

“Dim ond un o'r ffyrdd y gallwn ni i gyd fod yn cymryd camau bach i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu yw'r fenter hon, gan helpu ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Da iawn i'r enillwyr, ac edrychaf ymlaen at weld beth ddaw ym menter y flwyddyn nesaf.”

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i:
https://www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/recycling-for-kids/recycling-in-schools?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau