Recycling in schools
Rydym yn rhoi nifer o gyfleoedd i ysgolion ailgylchu:
Menter ailgylchu batris
Rydym yn cynnal y fenter ailgylchu batris bob blwyddyn mewn partneriaeth â’r Llwyfan Ailgylchu Ewropeaidd (ERP).
Gofynnwn i ddisgyblion ddod â batris cartref i’r ysgol i’w hailgylchu. Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cystadlu ag ysgolion eraill yn y Fwrdeistref i ennill gwobrau cyffrous mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd y flwyddyn ysgol.
Os hoffai’ch ysgolion gymryd rhan, cysylltwch â ni i gael ffurflen gais.
Eco-Sgolion
Mae Rhaglen Eco-sgolion yn broject Ewrop gyfan i annog addysg a gweithredu ar yr amgylchedd.
Mae Cynllun Gwobrwyo Eco-sgolion yn ffordd syml a hyblyg i ysgolion ymestyn gwersi amgylcheddol y tu allan i’r ystafell ddosbarth, a defnyddio’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol bob dydd. Mae’n cynnwys pawb yn yr ysgol, gan gynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr, yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau, pennu a chyflawni targedau realistig, a llunio cod amgylcheddol.
Mae nifer o themâu: sbwriel, dŵr, ynni, trafnidiaeth, tir yr ysgol, byw’n iach, lleihau ac adfer gwastraff a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae tair lefel gwobrwyo – efydd, arian a’r faner werdd.
Mae pob ysgol yn Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn rhan o raglen eco-sgolion.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Eco-sgolion cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cynaliadwy ar 01495 235141 neu datbygucynaladawy@caerffili.gov.uk.