News Centre

Cyngor Caerffili yn atgoffa deiliaid contract (tenantiaid) i ddiweddaru manylion cyswllt

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Cyngor Caerffili yn atgoffa deiliaid contract (tenantiaid) i ddiweddaru manylion cyswllt
Mae gwasanaeth tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cartrefi Caerffili, yn gofyn i’w ddeiliaid contract (tenantiaid) sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gyfredol.
 
Mae hyn yn dilyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar 1 Rhagfyr 2022 sy'n golygu bod pob tenantiaeth wedi trosi'n ‘gontract meddiannaeth’.
 
Nid oes angen i denantiaid y Cyngor wneud dim gan fod eu cytundeb tenantiaeth wedi trosi'n awtomatig i'r contract newydd.   Fodd bynnag, mae angen i ddeiliaid contract sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gyfredol er mwyn i'r Cyngor anfon copïau o'u contract newydd atyn nhw.  Disgwylir i gontractau gael eu hanfon yn gynnar yn 2023.
 
Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at holl ddeiliaid contract y Cyngor, ynghyd â ffurflen iddyn nhw ei llenwi a'i dychwelyd.  Fel arall, gall deiliaid contract lenwi ffurflen gryno ar wefan y Cyngor.
 
Gall deiliaid contract sydd â chwestiynau, neu sydd angen cymorth, ffonio 01443 811434 / 33 / 32 neu e-bostio RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk.
 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau