News Centre

Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg

Postiwyd ar : 07 Rhag 2021

Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg
Ar 7 Rhagfyr bydd sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
 
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydlynu’r diwrnod. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.
 
Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.
 
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.

"Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg ar yr un pryd yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth. Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad penodol bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo."


Ymholiadau'r Cyfryngau