News Centre

Mae'r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf yn cael ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn yma

Postiwyd ar : 06 Rhag 2021

Mae'r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf yn cael ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn yma
Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Coed Duon wrth iddi baratoi ar gyfer Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf.
 
A hithau'n cynnal y farchnad olaf mewn cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ledled y Fwrdeistref Sirol, mae canol tref Coed Duon ar fin cael ei thrawsnewid yn wledd aeafol gyda thua 25 o stondinau bwyd a chrefft. Bydd fodca, jin, rỳm, cwrw, cacennau, losin, pecynnau sleim, ategolion gwallt i blant ac ategolion i gŵn ar werth gan y masnachwr rheolaidd, Charlie B's – i enwi dim ond rhai o'r cynhyrchion blasus a hyfryd a fydd ar gael!
 
Bydd y diwrnod allan Nadoligaidd i'r teulu hefyd yn cynnwys detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.
 
Bydd y Farchnad, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr, yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol y Nadolig hwn. Mae gan ganol tref Coed Duon ddewis o siopau annibynnol sy'n llawn syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr, caffis a bariau.
 
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Gyda'r Nadolig dim ond wythnosau i ffwrdd, mae'r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn gyfle perffaith i siopwyr brynu anrhegion unigryw wrth gefnogi'r stryd fawr leol.”
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Stryd Fawr, lle bydd y ffordd ar gau rhwng 9pm nos Wener 10 Rhagfyr a 9pm nos Sadwrn 11 Rhagfyr.
 
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau