Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2021
Dewis Lleoly Nadolig Hwn
News Centre
Dewis Lleoly Nadolig Hwn
Postiwyd ar : 09 Rhag 2021
Wrth i fis Rhagfyr fynd yn ei flaen, efallai eich bod chi'n dal i chwilio am yr anrheg Nadolig berffaith. Yn ffodus, mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili ddewis eang o siopau unigryw ac annibynnol ynghyd â dewis gwych o weithgareddau, atyniadau a bwytai o'r safon uchaf sy'n cynnig yr opsiwn i chi gael talebau rhodd, gan ddarparu popeth sydd ei angen arnoch chi i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn.
• Mae
Tŷ Coppi Adventures
yn cynnig talebau rhodd ar gyfer eu holl weithgareddau: dringo creigiau, teithio trwy geunentydd, cerdded ceunentydd, teithiau e-feicio, mynd ag alpacas am dro, a beicio mynydd. Prynwch brofiad, neu daleb ariannol i dalu tuag at brynu un o'r profiadau.
• Mae talebau rhodd ar gael gan
Outdoor Explore Wales
sy'n gwneud anrhegion Nadolig gwych. Ewch i
https://outdoorexplore.wales/gift-vouchers/
• Ewch i'r siop anrhegion ym
Maenordy Llancaiach Fawr
a chael syniadau gwych ar gyfer anrhegion Cymreig ac addurnau unigryw.
• Mae gan siop anrhegion
Coedwig Cwmcarn
ddewis hyfryd o eitemau crefft hardd a phethau llenwi hosan ar gyfer y teulu i gyd.
• Mae gan
Bryn Meadows Golf, Hotel & Spa
dalebau rhodd Nadolig ar gyfer amrywiaeth eang o bethau – gan gynnwys te prynhawn, aros dros nos, diwrnod yn y sba, sesiynau golff a llawer mwy! Mae'r cyfan ar gael yn
www.brynmeadows.co.uk/gifts/
• Beth am brynu tocynnau ar gyfer sioe? Mae'n anrheg wych ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yn y flwyddyn newydd! Mae digwyddiadau ar y gweill yn 2022 yn:
Neuadd y Gweithwyr, Bedwas
;
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
; a
Neuadd y Gweithwyr, Caerffili
.
• Mae
Welsh Gifts with Heart
yn gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion a chofroddion Cymreig arbennig, gan gynnwys llwyau caru, anrhegion llechi, gemwaith a theganau.
• Mae'r diodydd gorau – gan gynnwys seidr, cwrw a jin – i lenwi hosan ar gael gan
Williams Brothers Cider
,
Hallets Cider
,
Brew Monster Brewing Company
,
Well Drawn Brewing
ac
Old Brenin Distillery
!
• Mae
Cymraeg Crystal
yn crefftio eu holl gynhyrchion â llaw ac yn eu dylunio nhw'n fewnol. Maen nhw'n cynnig gwasanaeth ysgythru pwrpasol yn achos eu holl gynhyrchion, fel creu negeseuon penodol.
• Mae
VR Experience Wales
, Abercarn, yn cynnig amrywiaeth o gemau cyffrous, gan gynnwys rhai cynhyrfus a gemau dianc, gydag enwau fel Laser Tag a Hero Zone. Mae'r profiadau hyn yn dalebau rhodd gwych ar gyfer siopa Nadolig rhwydd a fydd yn plesio pobl o bob oed.
I gael rhestr lawn o leoliadau, digwyddiadau a gweithgareddau yn yr ardal, ewch i
www.visitcaerphilly.com/cy
#DewisLleol #ChooseLocal #DewisLleolyNadoligHwn #ChooseLocalThisChristmas #CroesoCaerffili #VisitCaerphilly
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y