News Centre

Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn uwchraddio i gael llifoleuadau LED

Postiwyd ar : 18 Awst 2023

Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn uwchraddio i gael llifoleuadau LED
Mae’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn Ystrad Mynach wedi gosod llifoleuadau LED effeithlonrwydd uchel newydd i ddarparu gwell gwelededd ac effeithlonrwydd ynni i’r cyfleuster.
 
Roedd y prosiect, a gafodd arian grant gan Chwaraeon Cymru, yn cynnwys gosod llifoleuadau Phillips LED yn lle'r llifoleuadau halid metel presennol. Cafodd y ddau gae eu cynllunio i gyrraedd y lefel goleuo benodedig o 500 lux i fodloni’r safonau gofynnol ar gyfer Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
 
Cafodd SmartGEDi, sy'n ddatrysiad rheoli goleuadau chwyldroadol, ei osod hefyd i leihau biliau ynni a defnydd gan ddarparu gwahanol opsiynau o ran switsio hefyd. Bellach, mae tîm y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn gallu dewis o amrywiaeth o ddewisiadau goleuo i weddu i’w gofynion ac i sicrhau bod yr arbedion cost mwyaf posibl yn cael eu cyflawni.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae uwchraddio i lifoleuadau LED wedi bod yn benderfyniad gwych i'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon. Maen nhw nid yn unig wedi gwella ansawdd y goleuadau yn sylweddol ar gyfer chwaraewyr a gwylwyr, gan ei gwneud yn fwy diogel ar gyfer sesiynau hyfforddi a gemau gyda'r nos, ond maen nhw'n ategu ein nodau cynaliadwyedd ac yn cynyddu ein heffeithlonrwydd ynni."
 
Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru, “Mae Chwaraeon Cymru yn rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedden ni'n falch o gynorthwyo’r prosiect hwn i helpu’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon i uwchraddio ei chyfleusterau ar gyfer profiadau aml-chwaraeon, gan leihau ei hôl troed carbon.”
 
Mae’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon wedi dod yn gyfleuster chwaraeon proffil uchel sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Rygbi’r Dreigiau a Choleg y Cymoedd. Mae'r ganolfan yn darparu chwaraeon elitaidd a llawr gwlad yn ogystal â darparu sesiynau cymunedol yn ystod gwyliau'r ysgol.
 
I gael rhagor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden actif sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau