News Centre

Safonau Masnach yn atgoffa busnesau bwyd o #YmwybyddiaethAlergeddau

Postiwyd ar : 28 Ebr 2023

Safonau Masnach yn atgoffa busnesau bwyd o #YmwybyddiaethAlergeddau

Mae Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa busnesau bwyd lleol i sicrhau eu bod nhw'n deall eu cyfrifoldebau o ran darparu gwybodaeth am alergenau bwyd.

Mae'r atgoffa'n cyd-ddigwydd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Alergeddau, o 24 i 30 Ebrill, i dynnu sylw at y peryglon sy'n gysylltiedig ag alergeddau bwyd. Thema'r ymgyrch genedlaethol eleni yw ‘Mae’n bryd cymryd alergeddau o ddifrif’, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r effaith seicolegol a'r arwahanrwydd sy'n digwydd yn sgil byw ag alergedd.

Gall symptomau alergedd bwyd amrywio o fod yn ysgafn i rai sy'n berygl bywyd. Mae alergedd bwyd yn cael ei achosi gan y system imiwnedd yn gorymateb i fathau penodol o fwyd. Mae'r alergenau bwyd mwyaf cyffredin yn cynnwys cnau daear, llaeth, wyau, cnau coed, pysgod cregyn, soi a gwenith.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd,

“Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Alergeddau yn gyfle da i ni atgoffa busnesau o bwysigrwydd darparu gwybodaeth glir a chywir am alergenau bwyd.

“Rydyn ni wedi gweld achosion yn lleol lle mae pobl sy'n byw ag alergeddau bwyd wedi dioddef adwaith alergaidd ar ôl bwyta bwyd anniogel. Rydyn ni'n awyddus i helpu i atal hyn ac yn anelu at ddiogelu defnyddwyr lle bynnag y bo modd.

“Slogan yr ymgyrch eleni yw “Mae'n bryd cymryd alergeddau o ddifrif” ac mae'r neges yn syml – os ydych chi'n fusnes sy'n cynhyrchu, paratoi neu werthu bwyd, rhaid i chi roi gwybod i gwsmeriaid os oes unrhyw un o'r 14 alergen wedi'u datgan gan y gyfraith yn y bwyd neu'r ddiod rydych chi'n eu gwerthu.

“Er mwyn sicrhau bod defnyddwyr sy'n byw gyda gorsensitifrwydd bwyd yn gallu gwneud dewisiadau o ran bwyd diogel, bydden ni'n eu hannog nhw i holi am wybodaeth alergeddau bob tro y byddan nhw'n archebu bwyd ac i wirio labeli cynhwysion bwyd”.

Mae Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf – sef partneriaeth rhwng cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Dinas Casnewydd a Thorfaen – wedi cynhyrchu adnodd alergenau amlieithog ar gyfer busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn helpu diogelu'r ddwy miliwn a mwy o bobl sy'n byw gydag alergedd bwyd wedi'i ddiagnosio yn y Deyrnas Unedig.

Gallwch chi lawrlwytho'r adnoddau o wefan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig www.tradingstandards.uk/practitioners/food-allergen-resource

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn rhoi hyfforddiant ar-lein am ddim o ran alergedd ac anoddefiad bwyd yn https://allergytraining.food.gov.uk/?lang=cy

I gael cyngor busnes neu i roi gwybod am broblem bwyd mewn bwyty neu siop fwyd, pryder am eitem wedi'i phrynu neu fwyd wedi'i archebu ar-lein, cysylltwch â:

SafonauMasnach@caerffili.gov.uk Ffôn 01443 811300.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau