Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Prydau ysgolion cynradd
Swyddi a hyfforddiant
Cynghorwyr a phwyllgorau
Canolfannau Hamdden
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
Enillydd cystadleuaeth enwi trên yn gwneud ymweliad arbennig â phencadlys Cyngor Caerffili
News Centre
Enillydd cystadleuaeth enwi trên yn gwneud ymweliad arbennig â phencadlys Cyngor Caerffili
Postiwyd ar : 13 Ebr 2023
Cafodd Morgan Daniel, 12 oed ac o Nelson, ei wahodd i fynd ar daith breifat o amgylch pencadlys Tŷ Penallta Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddathlu iddo ennill cystadleuaeth enwi trên a gafodd ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.
Cafodd y trên Dosbarth 231 newydd, a gafod ei ddadorchuddio yng Nghaerffili yn ddiweddar, ei enwi’n ‘Sultan’ gan Morgan. Ar hyn o bryd, mae Morgan yn mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a dewisodd yr enw buddugol pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Allta, Ystrad Mynach.
Ymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, a’r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, â Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Liz Aldworth, i arwain Morgan a’i rieni ar daith o amgylch Siambr y Cyngor a Pharlwr y Maer.
Meddai Morgan, “Roeddwn i eisiau ei enwi’n Sultan ar ôl y cerflun ym Mharc Penalllta, sef i goffáu’r merlod a fu’n gweithio ac a fu farw yn y pyllau.
"Gan ei fod mor agos at ble rydw i’n byw, fy ffrindiau’n byw a lle’r oedd fy ysgol, roeddwn i am ei enwi ar ôl ein treftadaeth a’n diwylliant lleol ni.”
Ychwanegodd y Maer, y Cynghorydd Aldworth, “Roedden ni'n falch iawn o groesawu Morgan a'i rieni i'n pencadlys ni, sydd gerllaw Parc Penallta, sef cartref Sultan y merlyn pwll glo. Llongyfarchiadau i Morgan ar ennill y gystadleuaeth; mae'n amlwg ei fod wedi ystyried ei gais yn drylwyr iawn a siaradodd yn arbennig o dda ar ddiwrnod y dadorchuddio.”
Rhannwch y dudalen hon :
Share on Facebook
Share on Twitter
Newyddion Diweddar
Ffiliffest 2024
Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Email Address
Telephone
Address
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y