News Centre

Canolfan Gymunedol Oakdale yn Ennill Grant i Uwchraddio Cyfleusterau Cegin

Postiwyd ar : 03 Ebr 2023

Canolfan Gymunedol Oakdale yn Ennill Grant i Uwchraddio Cyfleusterau Cegin
Mae canolfan arobryn Canolfan Gymunedol Oakdale yn cynorthwyo llawer o grwpiau gwirfoddol lleol ac yn parhau i wella ei chyfleusterau ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Maen nhw wrth galon y gymuned ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau at ddant pob grŵp oedran, o’r cyfnod cyn ysgol i bensiynwyr.  Mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys clwb cinio, tai chi, grwpiau celf a chrefft, grwpiau colli pwysau, grwpiau hanes a chlybiau ffotograffiaeth. Mae’r Ganolfan hefyd wedi sefydlu Hwb Croeso Cynnes yn ddiweddar, sy’n cynnig lluniaeth am ddim a gofod cynnes i fynd i’r afael ag ynysigrwydd llawer o aelodau'r gymuned.
 
Cost y prosiect uwchraddio oedd £3,296.00, gyda Chanolfan Gymunedol Oakdale yn cael £2,636.80 o grant. Cafodd y grant hwn ei ddyfarnu i Ganolfan Gymunedol Oakdale trwy Gronfa Budd Cymunedol Oakdale Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei gweinyddu gan dîm Menter Fusnes ac Adnewyddu. Maen nhw'n gwneud hynny ar ran Resonance - Pen y Fan Windfarm Ltd, sy'n darparu'r cyllid i gynorthwyo prosiectau cymunedol o fewn radiws o 2 filltir i'r fferm wynt.
 
Cafodd y grant ei ddefnyddio i uwchraddio'r brif gegin yn y ganolfan, gan gynnwys ailosod wynebau gweithio sydd wedi treulio a difrodi, adleoli unedau a gosod tap dŵr poeth newydd.  Mae'r gwelliannau hyn wedi bod o fudd i'r holl weithgareddau a gwasanaethau lleol sydd ar gael ar gyfer holl ddefnyddwyr y ganolfan. Bydd yr uwchraddio hefyd yn helpu i ddenu mwy o ddefnyddwyr achlysurol, gan ei gwneud yn fwy deniadol ar gyfer llogi preifat a defnyddio mannau cyfarfod.
 
Mae gan y ganolfan brif neuadd sydd ag 80 sedd, cyfleusterau taflunio ar gyfer gliniaduron neu gyflwyniadau DVD, system sain a dolen glyw.  Mae ganddi hefyd neuadd isaf, gyda seddi i 60 o bobl, gyda theledu sgrin fflat/chwaraewr DVD. Mae'r ganolfan hefyd yn darparu wi-fi am ddim, ac mae mynediad llawn i bobl anabl a digon o leoedd parcio am ddim.
 
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â llogi Canolfan Gymunedol Oakdale neu am wybodaeth ynglŷn â gweithgareddau a digwyddiadau, cysylltwch â:
Ffôn – 07969 291157
E-bost – oakdalecomcentre@gmail.com


Ymholiadau'r Cyfryngau