Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Prydau ysgolion cynradd
Swyddi a hyfforddiant
Cynghorwyr a phwyllgorau
Canolfannau Hamdden
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
Mae Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd ar gyfer 2023
News Centre
Mae Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd ar gyfer 2023
Postiwyd ar : 11 Ebr 2023
Bydd digwyddiad poblogaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Pa Ffordd Nawr?", yn dychwelyd ar 24 Ebrill 2023.
Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r digwyddiad wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Bydd ar agor i ysgolion yn unig o 10am-1pm, ac yna i unrhyw un sy’n ddi-waith neu’n chwilio am swydd sydd eisiau rhywfaint o wybodaeth a chymorth rhwng 2pm a 4pm.
Mae Pa Ffordd Nawr? mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru yn cael ei drefnu ar y cyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhaglenni Cyflogadwyedd Caerffili, sydd â’r nod o helpu disgyblion sy’n ymadael â’r ysgol a phobl ifanc sy’n chwilio am gyngor ac ysbrydoliaeth o ran pa lwybr gyrfa i’w gymryd nesaf. Mae hefyd yn anelu at gael pobl ifanc i ganolbwyntio ar arholiadau sydd ar ddod ac yn dangos gyrfaoedd posibl iddyn nhw.
Bydd amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn bresennol, a byddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o gyngor, hyfforddiant, cyfleoedd gwaith a hyd yn oed rhai cyfleoedd ar gyfer cyfweliadau ar yr un diwrnod.
Mae rhai enghreifftiau o’r hyn i'w ddisgwyl ei weld ar y diwrnod yn cynnwys:
Gwybodaeth am gyrsiau yn y coleg gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gwent
Gwybodaeth am addysg uwch a chyfleoedd prifysgol
Gwybodaeth am brentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru Plws
Swyddi gwag lleol
Cyngor cyffredinol o ran gyrfaoedd
Cymorth o ran sgiliau chwilio am swydd
Cyfweliadau ar yr un diwrnod
Bydd DJ yn chwarae cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd, a bydd raffl hefyd i'r rhai sy'n bresennol gystadlu am y cyfle i ennill aelodaeth hamdden am ddim am fis.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r Warant i Bobl Ifanc, sef ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai pawb dan 25 oed yn cael cymorth i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig.
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Yn dilyn ein llwyddiant ni mewn blynyddoedd blaenorol, rydw i’n falch ein bod ni'n gallu cynnal y digwyddiad, Pa Ffordd Nawr? eto yn 2023 ochr yn ochr â Gyrfa Cymru. Mae gennym ni ymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth i holl bobl ifanc y Fwrdeistref Sirol.”
Bydd Pa Ffordd Nawr? yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerffili ddydd Llun 24 Ebrill rhwng 10am a 4pm.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â John Poyner ar 01443 864970 neu e-bostio poynej@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Ffiliffest 2024
Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y