News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog staff i newid i gerbydau trydan

Postiwyd ar : 05 Ebr 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog staff i newid i gerbydau trydan
Mae mannau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu gosod ar ddau safle swyddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae 22 o fannau gwefru cerbydau trydan 7 cilowat awr (kWh) deuol newydd wedi'u gosod ar safle Tŷ Penallta a safle Tir-y-Berth. 

Er mai nod gosod y seilwaith newydd oedd cynorthwyo'r broses o drosglwyddo cerbyd fflyd y Cyngor i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn,  mae'r mannau gwefru hefyd ar gael at ddefnydd staff ac ymwelwyr, ar gyfer eu cerbydau personol er budd ymrwymiad y Cyngor i ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy.

Mae mannau gwefru cerbydau trydan 7 cilowat awr (kWh) yn cynnig gwefru cyflym sy'n addas ar gyfer gwefru cerbydau fflyd dros nos, gan hefyd ddarparu “gwefru ychwanegol” ar gyfer cerbydau eraill yn ystod y dydd. Yn ôl amcangyfrif, gallai o leiaf 100 o gerbydau fflyd gael eu cynorthwyo gan y 22 o fannau gwefru deuol.

Bydd staff y Cyngor ac ymwelwyr sy'n dymuno defnyddio'r mannau gwefru yn talu pris ar gyfradd y mae'r awdurdod yn ei thalu am drydan, yn ogystal â ffioedd gweinyddol bach. Gall hyn fod yn rhatach na chostau gwefru gartref.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi bod y mannau gwefru cerbydau trydan newydd hyn bellach ar waith.”

“Mae hon yn garreg filltir i'r Cyngor wrth drosglwyddo ein cerbydau fflyd i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn, yn unol â’n nod o fod yn awdurdod carbon niwtral erbyn 2030. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y mannau gwefru newydd yn annog mwy o staff y Cyngor i ystyried prynu cerbydau trydan, yn ogystal â helpu perchnogion presennol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau