News Centre

Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern yn creu llwybr cerdded ar gyfer Cystadleuaeth y Dreftadaeth Gymreig

Postiwyd ar : 19 Ebr 2022

Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern yn creu llwybr cerdded ar gyfer Cystadleuaeth y Dreftadaeth Gymreig
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Ty’n y Wern wedi bod yn brysur yn creu llwybr cerdded o amgylch eu hardal leol fel rhan o’u cais i Gystadleuaeth Treftadaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
 
Bob blwyddyn mae Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i roi cynnig ar brosiectau treftadaeth mewn cystadleuaeth genedlaethol.
 
Ar gyfer testun dyniaethau tymor gwanwyn yr ysgol, ‘Taith Trwy Trethomas’ (sic), fe wnaeth pob dosbarth ymchwilio i hanes rhai adeiladau yn yr ardal ac o’i chwmpas. Cafodd eu canfyddiadau nhw eu defnyddio i gynhyrchu’r llwybr cerdded newydd a chyffrous – Y TTT – a fydd yn cyfrannu at 12fed cais yr ysgol yn y gystadleuaeth.
 
Mae pob tirnod neu adeilad yn dangos arwydd sydd â disgrifiad byr a chod QR. Tra yn y lleoliad, gall cerddwyr sganio'r cod QR i ddarganfod rhagor am hanes yr adeilad yn ogystal â chael gwybod faint o gamau mae wedi'u cymryd i gyrraedd y pwynt hwnnw o'r daith.
 
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerdded y llwybr gwych hwn, mae mapiau ar gael o'r ysgol a siopau lleol.
 
Mae staff a disgyblion Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern yn annog y gymuned gyfan a thu hwnt i gymryd rhan ac yn gofyn i bawb orlifo eu ffrydiau Twitter neu Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #CerddedYTTT.
 
Yn ogystal â bod yn falch iawn o’u cymuned a’i threftadaeth, mae Tyn-y-Wern hefyd yn ysgol ‘Teithiau Llesol’, felly, mae’r llwybr cerdded yn cefnogi un o werthoedd craidd yr ysgol o annog teithiau llesol a chefnogi lles corfforol a meddyliol.
 
Dywedodd Tîm Arwain Disgyblion yr ysgol, “Fe wnaethon ni fwynhau’r testun hwn yn fawr gan fod yr wybodaeth a ddysgon ni am yr adeiladau yn ein cymuned ni yn ddiddorol iawn ac roedd yn hynod ddiddorol cymharu sut mae’r pentref wedi newid dros amser. Fe wnaethon ni fwynhau'n fawr osod y llwybr a mynd allan yn ein pentref hyfryd ni. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y llwybr yn cael ei ddefnyddio a’i fwynhau gan y gymuned ac ymwelwyr am flynyddoedd lawer i ddod.”
 
Defnyddiwyd teitl y prosiect hefyd fel thema ein cerflun Snoopy ar gyfer 'A Dogs Trail' sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Caerffili. Mae cerflun Snoopy’r ysgol, a ysbrydolwyd gan yr arlunydd Cymreig, Martyn Evans, yn dangos adeiladau a mannau o ddiddordeb o gwmpas Tretomos.
 
Untitled-design-2022-04-19T092616-696-(1).jpg
 
Dywedodd Richard (Ed) Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, “Rydyn ni yng Nghyngor Caerffili yn falch iawn o’r brwdfrydedd y mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern wedi'i ddangos. Mae'r llwybr hwn yn gamp anhygoel ac rydyn ni'n dymuno bob lwc i chi yn y gystadleuaeth.

“Byddwn i'n annog pob ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon i fyfyrwyr o bob oed, i ddysgu am eu treftadaeth a’u cymuned ehangach.”


Ymholiadau'r Cyfryngau