Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid

Mae Gwasanaeth Cofrestru Caerffili wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cofrestru o ansawdd uchel i gwsmeriaid ar adegau allweddol yn eu bywydau, ac adlewyrchir hynny yn y cyfleusterau a ddarperir o fewn y swyddfa gofrestru ynghyd â medrusrwydd ac ymroddiad y staff.

Mae’r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol a’r egwyddorion a amlinellir ym mholisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC). Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio’n llwyr ar y cwsmer ac mae’r safon cyflenwi gwasanaeth uchel a gyflawnwyd yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar yr awdurdod lleol. Bydd y Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn hwyluso cyfranogiad cwsmeriaid effeithiol.

Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid (PDF)

Cysylltwch â ni