Cynlluniau a strategaethau

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ni gael polisïau ar waith i ddangos sut rydym yn bwriadu bodloni ein dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â'r fwrdeistref sirol.

Mae gennym un bolisi hollol integredig ar waith, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 sy’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Rhaid i ni hefyd gyhoeddi adroddiadau perfformiad blynyddol ar sut yr ydym yn datblygu, sy'n cael eu craffu gan aelodau etholedig yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion a phartneriaid y cyngor.

Ewch i'n hadran strategaethau, cynlluniau a pholisïau Cydraddoldeb am fwy o fanylion.

 

Cysylltwch â ni